Edrychwch ar y ffotograff yma. Dyma fi yn chwarae bossaball.
Es i i lan y môr ddydd Sadwrn a chwaraeais i gêm newydd – bossaball – gêm gyffrous iawn.
Mae’r gêm fel pêl-foli, pêl-droed, capoeira a neidio. Mae dau dîm yn chwarae ar gwrt arbennig – maen nhw’n chwythu’r cwrt i fyny (fel castell neidio!) ac mae trampolîn ar ddau hanner y cwrt.
Yn gyntaf, dysgais i sut i chwarae bossaball. Dysgais i’r rheolau a’r sgiliau.
Yna, chwaraeais i’r gêm gyda ffrindiau newydd. Ciciais i’r bêl … bwrais i’r bêl … sgoriais i! Bwrais i’r bêl eto … neidiais i ar y trampolîn … bwrais i’r bêl eto … neidiais i eto ... syrthiais i - ond dim ots – roedd e’n hwyl. Roedd e’n llawer o hwyl! Mwynheuais i’n fawr.
Mae llawer o bobl yn chwarae bossaball yn Sbaen. O, dw i eisiau chwarae eto!
HelpGeirfa | |
cwrt | court |
arbennig |
special |
chwythu |
to blow |
yn gyntaf |
first |
rheolau |
rules |
bwrais i |
I hit |
dim ots |
never mind |
yn fawr | very much |
Parti Pen-blwydd
Edrychwch ar y ffotograff. Dyma barti pen-blwydd Matt.
Aethon ni i saethu peli paent yn y ganolfan peli paent ac roedd o’n hwyl. Roedd o’n llawer o hwyl.
Dalion ni’r bws ac yna cerddon ni i’r ganolfan peli paent. Gwisgon ni oferôls – achos mae’r peli paent yn marcio’r dillad.
Saethon ni’r peli paent am awr. Waw – dyna hwyl! Yna, dalion ni’r bws eto – i dŷ Matt.
Bwyton ni fwyd – pizzas a sglodion a digon o gacen pen-blwydd. Gwylion ni ffilm a chwaraeon ni gemau ar y cyfrifiadur tan un ar ddeg o’r gloch y nos ac yna aethon ni adre.
Diwrnod gwych! Mwynheuon ni’n fawr.
HelpGeirfa | |
saethu |
to shoot |
peli paent |
paint balls |
canolfan |
centre |
dalion ni |
we caught |
awr |
hour |
dyna … |
what a … |
diwrnod | day |
photographs
volley ball
trampoline
skills
Spain
overalls
games