22 Awst, 2015
Nos Sadwrn, 11.30 y nos
Noson anhygoel!
Es i i barti yn y castell gyda Liam, Kitty, David ac Ifan – parti pen-blwydd Sofia.
Roedd y parti’n grêt. Roedd llawer o fwyd blasus yno ac roedd y gerddoriaeth yn wych. Roedd pawb yn cael amser gwych. Bwyton ni fwyd parti; dawnsion ni; siaradon ni; chwaraeon ni gêm. Yna, ar ôl chwarae’r gêm, dwedodd Liam, “Beth am fynd i chwilio am ysbrydion?”
Beth?!?!?! Chwilio am ysbrydion? Bobl bach! Mawredd mawr! Nefi wen! YSBRYDION!?!?!
Wel, roedd pawb (ond fi!) eisiau mynd ac felly aethon ni i lawr i’r seler. Roedd hi’n dywyll iawn yno. Felly, defnyddion ni ein ffonau i roi golau i ni.
Cerddon ni’n dawel drwy’r seler. Roedd hi’n sbŵci iawn. Roedd hi’n oer iawn hefyd. Ych a fi! Roedd y seler yn dawel iawn ond, yn sydyn, dwedodd David, “Shh, dw i’n gallu clywed sŵn!”
Stopion ni. “Diffoddwch y ffonau,” dwedodd Liam. Diffoddon ni’r ffonau ac arhoson ni’n dawel yn y seler heb siw na miw. O, roedd hi’n oer iawn nawr – ac roedd hi’n dywyll iawn hefyd. Roedd hi mor dawel â’r bedd.
Yn sydyn, clywon ni sŵn cerdded yn y seler ac yna teimlais i law oer ar fy llaw i. “Paid!” dwedais i wrth Liam. (Roeddwn i’n meddwl bod Liam yn chwarae tric!)
“Paid!” gweiddodd Kitty. “Stopia, Liam … stopia.” Goleuon ni’r ffonau … doedd Liam ddim yno.
“Ble mae Liam?” gofynnodd Kitty ac yna roedd sŵn ofnadwy. Rhedon ni nerth ein traed o’r seler … i fyny’r grisiau ac yn ôl i’r parti. Ond doedd Liam ddim yno.
Ble mae Liam nawr?
heb siw na miw without a sound
mor dawel â’r bedd as quiet as the grave
nerth ein traed as fast as our feet would carry us
Geirfa | |
anhygoel |
incredible, awesome |
ysbryd, ysbrydion |
ghost, ghosts |
felly |
so |
tywyll |
dark |
defnyddio |
to use |
golau | light |
yn dawel |
quietly |
diffodd |
to switch off |
teimlo |
to feel |
llaw |
hand |
goleuo | to light |