Edrychwch ar y blynyddoedd yma. Beth ydy’r blynyddoedd yma yn Gymraeg?
Ewch i Tasg 1.
Defnyddiwch y blynyddoedd yma i ateb y cwestiynau isod.
Dechreuodd Facebook.
Pa flwyddyn?
Daeth y ffilm Harry Potter and the Philosopher’s Stone i sinemâu Prydain.
Pa flwyddyn?
Mileniwm newydd
Dechreuodd y mileniwm newydd. Roedd llawer o bartïon. Roedd llawer o dân gwyllt. Roedd llawer o hwyl.
Pa flwyddyn?
Laika
Aeth ci o’r enw Laika i’r gofod mewn roced o’r enw Sputnik 2.
Pa flwyddyn?
Apollo
Aeth tri dyn – Neil Armstrong, Buzz Aldrin a Michael Collins – i’r Lleuad. Teithion nhw yn Apollo 11.
Cerddodd Neil Armstrong ar y Lleuad ac yna cerddodd Buzz Aldrin ar y Lleuad. Roedd Michael Collins yn teithio o gwmpas y Lleuad.
Pa flwyddyn?
Y Titanic
Roedd y Titanic yn llong fawr, grand ac roedd hi’n mynd i Efrog Newydd yn America.
Gadawodd hi Belfast am wyth o’r gloch ar 2 Ebrill. Teithiodd hi i Southampton.
Cyrhaeddodd hi Southampton ar 3 Ebrill. Yna, gadawodd hi Southampton ganol dydd ar 10 Ebrill.
Teithiodd hi am bum diwrnod ond yna, ar 15 Ebrill, aeth hi o dan y môr.
Pa flwyddyn?
Guto Ffowc
Roedd Guto Ffowc yn Babydd ac roedd e eisiau lladd James 1, y brenin. Triodd Guto Ffowc ladd James.
Pa flwyddyn?
The Beatles
Roedd pedwar dyn yn canu yn The Beatles – Ringo Starr, Paul McCartney, John Lennon a George Harrison. Roedden nhw’n dod o Lerpwl ac roedden nhw’n enwog iawn, iawn. Roedden nhw’n rhif un yn y siartiau gyda She Loves You yn y flwyddyn yma. Roedd y gân yma’n rhif un am chwe wythnos.
Pa flwyddyn?
Y Gemau Olympaidd
Dechreuodd y Gemau Olympaidd yn 776 C.C. yn Olympia, Groeg. I ddechrau, roedd dynion (dim merched!) yn rhedeg. Yna, ar ôl peth amser, roedden nhw’n rhedeg, reslo, bocsio, neidio, taflu a rasio cerbydau rhyfel.
Ond dechreuodd y Gemau Olympaidd modern yn Athens. Roedd dynion (dim merched!) yn beicio, gwneud athletau, gymnasteg a saethyddiaeth, rhedeg, neidio, taflu, hwylio, saethu, chwarae tennis, codi pwysau a reslo.
Pa flwyddyn?
Daeth y Gemau Olympaidd i Lundain.
Pa flwyddyn?
HelpGeirfa | |
tân gwyllt |
fireworks |
o’r enw |
named |
diwrnod |
day |
gofod |
space |
o gwmpas |
around |
Pabydd |
Roman Catholic |
lladd |
to kill |
rhif |
number |
C.C. | B.C. |
ar ôl |
after |
peth amser |
some time |
taflu |
throwing |
cerbydau rhyfel |
chariots |
saethyddiaeth |
archery |
saethu |
shooting |
hwylio |
sailing |
codi |
lifting |
pwysau | weights |
cinemas
millennium
parties
rocket
ship
it left