
Nos Sadwrn, roedd parti mawr yn y Tŷ Mawr, cartref Mr Joshua Holmes, achos roedd parti pen-blwydd Alice, merch Joshua.
Roedd llawer o bobl yno ac roedden nhw’n cael amser gwych. Roedd llawer o fwyd … llawer o ddiod … llawer o hwyl. Roedd band gwych yn chwarae ac roedd pawb yn dawnsio.
Am hanner awr wedi naw, aeth Alice Holmes allan o’r parti achos roedd hi’n teimlo’n sâl.
Am chwarter i ddeg, aeth Sam Wilkins, cariad Alice, allan o’r parti i chwilio am Alice.
Am ddeg munud i ddeg, aeth Mrs Belinda Holmes, gwraig Mr Joshua Holmes, allan i chwilio am Mr Holmes achos doedd e ddim yn y parti.
Am ddeg munud wedi deg, aeth Joseph Holmes allan o’r parti achos roedd e eisiau coffi.
Am chwarter wedi deg, aeth Catrin Price, ffrind Mr Joshua Holmes, brawd Mr Joshua Holmes, allan i’r tŷ bach … ac yna sgrechiodd hi … a sgrechiodd hi … a sgrechiodd hi. Rhedodd pawb i weld beth oedd y broblem.
Roedd drws y tŷ bach ar agor … roedd Catrin yn sefyll tu allan i’r tŷ bach yn sgrechian achos roedd Joshua Holmes yn gorwedd ar y llawr. Roedd e wedi marw.
Pwy wnaeth e?
Sut?
Pam?
Help| Geirfa | |
| cartref | home |
| llawer o | lots of |
| teimlo’n sâl | to feel ill |
| chwilio am | to look for |
| sgrechian | to scream |
| sefyll | to stand |
| gorwedd | to lie |
| llawr | floor |
| wedi marw | dead |
| tybed | I wonder |
%MCEPASTEBIN%