Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
diwetha |
last |
aethon ni |
we went |
Fictoraidd |
Victorian |
hardd |
beautiful |
cyfoethog |
rich |
pethau |
things |
lle tân |
fireplace |
ystafell ymolchi |
bathroom |
cwpwrdd |
cupboard |
yn fawr |
very much |
Es i ar drip ysgol wythnos diwetha. Aethon ni i weld tŷ Fictoraidd ym Mhowys.
Dyma ffilm o’r trip.
Teithion ni drwy’r wlad – o Lanelli … i Bowys … Roedd e’n grêt.
Teithion ni am ddwy awr.
Ar y bws, siaradais i gyda ffrindiau – bwytais i siocled ac yna gwrandawais i ar gerddoriaeth. Roedd e’n hwyl.
Yna … yn sydyn … dyna’r tŷ.
Aethon ni i mewn i’r ystafell fwyta yn gyntaf. Roedd hi’n hardd iawn.
Roedd y bobl yn y tŷ yma’n gyfoethog. Edrychwch ar y pethau yn yr ystafell yma … Edrychwch ar y pethau ar y bwrdd. Hyfryd!
Yna, aethon ni i’r gegin. Roedden nhw’n coginio yma, edrychwch ar y lle tân – roedd y bobl yn coginio dros y tân.
Aethon ni i i fyny’r grisiau i’r ystafell ymolchi. Edrychwch ar y bath – dim tapiau – roedd rhaid cario’r dŵr mewn caniau dŵr i fyny’r grisiau.
A dyma’r ystafell wely. Roedd gwely mawr yn yr ystafell – a bath. Roedd cwpwrdd diddorol yno hefyd achos … roedd toiled yn y cwpwrdd.
Roedd y tŷ’n ddiddorol iawn ac roedd y trip yn wych. Mwynheuais i’r trip yn fawr.