Rydych chi’n mynd i wrando ar ddarn o newyddion.
Dyma ychydig o help i chi – os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
sioc |
shock |
mynd adre |
to go home |
rhyfedd |
strange |
rhywbeth |
something |
awyr |
sky |
roeddwn i’n |
I was |
tywyll |
dark |
chwilio am |
to look for |
deialu |
to dial |
pwy a ŵyr? |
who knows? |
Cafodd dyn o Sir Ddinbych sioc ofnadwy nos Sadwrn ...
Roedd John Jones yn cerdded adre o’r ganolfan hamdden am ddeg o’r gloch y nos. Yn sydyn, clywodd o sŵn rhyfedd. Sŵn “Whiiisssssshhhh! “Whiiisssssshhhh!”.
Edrychodd o i fyny a gwelodd o rywbeth rhyfedd. Roedd rhywbeth coch ac oren yn yr awyr ac roedd o’n gwneud sŵn “Whiiisssssshhhh! “Whiiisssssshhhh!”.
Gwrandewch ar John Jones:
“Roeddwn i’n cerdded adre o’r ganolfan hamdden – ar ôl ymarfer pêl-droed. Roedd hi’n ddeg o’r gloch y nos ac roedd hi’n dywyll. Roedd hi’n noson braf. Yn sydyn, clywais i sŵn rhyfedd iawn – sŵn “Whiiisssssshhhh! “Whiiisssssshhhh!”. Edrychais i i fyny i’r awyr. Ces i sioc.
“Gwelais i soser goch ac oren yn yr awyr. Roedd y sŵn “Whiiisssssshhhh! “Whiiisssssshhhh!” yn dod o’r soser.
“Chwiliais i yn fy mag chwaraeon am fy ffôn symudol a deialais i naw, naw, naw. Gofynnais i am yr heddlu a dwedais i am y soser.
“Yna, rhedais i adre’n gyflym iawn …”
Beth welodd John Jones yn yr awyr? Pwy a ŵyr? Daeth yr heddlu mewn hanner awr ond doedd dim soser hedfan yno.
Ond … mae llawer o bobl eraill yng Nghymru’n dweud, “Rydyn ni wedi gweld soser yn hedfan yn yr awyr” hefyd!