Chwefror 10, 2015
Roedd gêm rygbi “ddiddorol” iawn yng Ngwlad Belg ddydd Sadwrn diwethaf.
Roedd y gêm rhwng timau Soignies a Kituro, o Frwsel. Mae Soignies yn dîm da iawn fel arfer ond ddydd Sadwrn collon nhw o dri chant pum deg chwech (356) i dri (3). Ie, 356 i 3!
Beth ddigwyddodd?
Teithiodd tîm Soginies i Frwsel i chwarae yn erbyn Kituro.
Roedd y gêm i fod i ddechrau am dri o’r gloch y prynhawn ac roedd pawb yn barod – pawb ond y dyfarnwr. Doedd e ddim yno.
Arhosodd y chwaraewyr am y dyfarnwr – ond ddaeth e ddim. Felly, aeth llawer o dîm Soignies adre.
Ond …
… tua 4 o’r gloch, daeth dyfarnwr arall a dechreuodd y gêm am 4.30 – heb lawer o chwaraewyr Soignies. Roedd rhaid chwarae’r gêm – neu golli pwynt.
Sgoriodd Kituro 356 pwynt.
Sgoriodd Soignies 3 phwynt.
Sgôr anhygoel!