Edrych yn ôl

FAINT oedd y sgôr?

Y Cylchgrawn Chwaraeon

FAINT oedd y sgôr?


Chwefror 10, 2015

Roedd gêm rygbi “ddiddorol” iawn yng Ngwlad Belg ddydd Sadwrn diwethaf

Roedd y gêm rhwng timau Soignies a Kituro, o Frwsel. Mae Soignies yn dîm da iawn fel arfer ond ddydd Sadwrn collon nhw o dri chant pum deg chwech (356) i dri (3). Ie, 356 i 3!

 

Rugby.jpg

Beth ddigwyddodd?

Teithiodd tîm Soginies i Frwsel i chwarae yn erbyn Kituro.

Roedd y gêm i fod i ddechrau am dri o’r gloch y prynhawn ac roedd pawb yn barod – pawb ond y dyfarnwr. Doedd e ddim yno.

Arhosodd y chwaraewyr am y dyfarnwr – ond ddaeth e ddim. Felly, aeth llawer o dîm Soignies adre.

 

Ond …

… tua 4 o’r gloch, daeth dyfarnwr arall a dechreuodd y gêm am 4.30 – heb lawer o chwaraewyr Soignies. Roedd rhaid chwarae’r gêm – neu golli pwynt.

Sgoriodd Kituro 356 pwynt.

Sgoriodd Soignies 3 phwynt.

Sgôr anhygoel!

Help

Geirfa

Gwlad Belg

Belgium

Brwsel

Brussels

diwethaf

last

rhwng

between

colli

to lose

digwyddodd

happened
yn erbyn against

i fod i

supposed to

dechrau

to start

pawb

everyone

dyfarnwr

 referee
 felly  so

heb

without