Edrych yn ôl

Ffotograffau

Fi

Edrychwch ar y ffotograff yma. Dyma fi yn chwarae bossaball.

01_Bossaball copy.jpg

Es i i lan y môr ddydd Sadwrn a chwaraeais i gêm newydd – bossaball – gêm gyffrous iawn.

Mae’r gêm fel pêl-foli, pêl-droed, capoeira a neidio. Mae dau dîm yn chwarae ar gwrt arbennig – maen nhw’n chwythu’r cwrt i fyny (fel castell neidio!) ac mae trampolîn ar ddau hanner y cwrt.

Yn gyntaf, dysgais i sut i chwarae bossaball. Dysgais i’r rheolau a’r sgiliau.

Yna, chwaraeais i’r gêm gyda ffrindiau newydd. Ciciais i’r bêl … bwrais i’r bêl … sgoriais i! Bwrais i’r bêl eto … neidiais i ar y trampolîn … bwrais i’r bêl eto … neidiais i eto ... syrthiais i  - ond dim ots – roedd e’n hwyl. Roedd e’n llawer o hwyl! Mwynheuais i’n fawr.

Mae llawer o bobl yn chwarae bossaball yn Sbaen. O, dw i eisiau chwarae eto!

Help
Geirfa
cwrt court

arbennig

special

chwythu

to blow

yn gyntaf

first

rheolau

rules

bwrais i

I hit

dim ots

never mind

yn fawr very much

Ni

Parti Pen-blwydd

Edrychwch ar y ffotograff. Dyma barti pen-blwydd Matt. 

 

Aethon ni i saethu peli paent yn y ganolfan peli paent ac roedd o’n hwyl. Roedd o’n llawer o hwyl.

Dalion ni’r bws ac yna cerddon ni i’r ganolfan peli paent. Gwisgon ni oferôls – achos mae’r peli paent yn marcio’r dillad.

Saethon ni’r peli paent am awr. Waw – dyna hwyl! Yna, dalion ni’r bws eto – i dŷ Matt.

Bwyton ni fwyd – pizzas a sglodion a digon o gacen pen-blwydd. Gwylion ni ffilm a chwaraeon ni gemau ar y cyfrifiadur tan un ar ddeg o’r gloch y nos ac yna aethon ni adre.

Diwrnod gwych! Mwynheuon ni’n fawr.

Help
Geirfa

saethu

to shoot

peli paent

paint balls

canolfan

centre

dalion ni

we caught

awr

hour

dyna …

what a …

diwrnod day

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

photographs

volley ball

trampoline

skills

Spain

overalls

games