Edrych yn ôl

Helo o …?

postcard
Slide background

Helo, Sam. Sut wyt ti?

Dw i’n cael amser da yma. Rydyn ni’n aros mewn carafán ar faes carafanau mawr ac mae cwrt tennis, pwll nofio a bowlio deg yma. Gwych!

Ddoe, es i i’r sŵ a gwelais i lawer o anifeiliaid diddorol. Roedd y pengwiniaid yn ddoniol iawn.

Ddydd Sul, es i i weld castell. Roedd pobl mewn hen ddillad yn gwneud bwyd yno. Bwytais i’r bwyd – ych a fi!

Ddydd Sadwrn, es i i nofio ar lan y môr. Hyfryd!

Wela i di ddydd Sadwrn.

Lyn

O.N. Wyt ti’n dod i aros dros y penwythnos?

Sam Davies
92 Y Ffordd Fawr
Y Drenewydd
Powys
SY21 10YY

Help
Geirfa

aros

to stay

bowlio deg

tenpin bowling

llawer o

lots of

diddorol

interesting

doniol

funny

ych a fi!

ugh!

ar lan y môr

at the seaside

O.N. P.S.

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

castle

penguins