Disgrifio

Rhyfedd!

Edrychwch ar y lluniau yma.

Meddyliwch am y cwestiynau yma ac yna cliciwch i ddangos yr ateb cywir.

Beth sy’n gyffredin i’r lluniau?

Mae esgid neu esgidiau ym mhob llun.


Beth sy yn llun 1?

Esgidiau neidio glas, coch a melyn (yn Stockholm, Sweden).


Beth sy yn llun 2?

Fflôt mewn carnifal yn Aix-en-Provence, Ffrainc


Beth sy yn llun 3?

Esgidiau ar goeden yn Utah. Mae teithwyr wedi gosod yr esgidiau yma ar y goeden.


Beth sy yn llun 4?

Sliperi toiled. Yn Japan, mae pobl yn gwisgo sliperi yn y tai a rhaid gwisgo sliperi arbennig i fynd i’r toiled.


Beth sy yn llun 5?

Hen sandalau ar y tywod.


Beth sy yn llun 6?

Bwcedi a fflip fflops plastig mewn siop yn Burkina Faso, Africa.


Ond beth am yr esgidiau yma?

tent-shoes crop.jpg

Mae’r rhain yn esgidiau arbennig iawn. Pam tybed? Edrychwch yn ofalus a dyfalwch.

Ar ôl dyfalu, cliciwch yma: 

http://www.odditycentral.com/news/australian-design-company-creates-tent-sneakers-for-campers-on-the-go.html.

Help
Geirfa
cyffredin common

ym mhob

in every

teithwyr travellers

gosod

to place

tywod

sand

y rhain

these

tybed

I wonder

dyfalu

to guess