Sut ydych chi’n teimlo?

Cyffrous!

Beth ydy flashmob?

Mae grŵp o bobl (e.e. grŵp dawnsio, grŵp canu) yn dweud, “Rydyn ni eisiau gwneud flashmob.”

Maen nhw’n dweud wrth bobl eraill yn y grŵp – mewn blogiau, e-byst, tecsts, ar facebook a Twitter. Maen nhw’n dweud:

  • beth
  • ble
  • pryd – dyddiad ac amser
  • beth i wisgo.

Dydyn nhw ddim yn dweud wrth lawer o bobl achos maen nhw eisiau rhoi syrpreis i bobl.

Yna, maen nhw’n paratoi.

Maen nhw’n mynd i le cyhoeddus ac maen nhw’n “perfformio”.

Dyma rai flashmobs diddorol:

  • dawnsio
  • clapio dwylo
  • cerdded fel zombies.

Mae’n hwyl. Mae pobl drist yn troi’n hapus. Mae wynebau trist yn dechrau chwerthin – mae pawb yn hapus.

Os ydych chi eisiau gweld flashmobs, edrychwch ar:

https://www.youtube.com/watch?v=ROPesXv2z1U

https://www.youtube.com/watch?v=2DiQUX11YaY

Help
Geirfa
roeddwn i I was
yn sydyn suddenly
cerddoriaeth music
canolfan siopa shopping centre
dechreuodd started
yna then
cyn bo hir before long, soon
pawb everyone
yn wên o glust i glust smiling like a Cheshire cat
trefnu to organize
dweud wrth to tell
paratoi to prepare
lle cyhoeddus public place
wynebau faces
chwerthin to laugh