Sut ydych chi’n teimlo?

Problemau

Problemau

Croeso i dudalen problemau Ciwb.

Llythyr 1

09 Chwefror 2016

Annwyl Ciwb

 

Mae hi’n nos Sul ac yfory dw i’n mynd i’r ysgol newydd (O, diar!!!!) – gwisg ysgol newydd (gwyrdd tywyll – ych a fi!!!), athrawon newydd, gwersi newydd, ffrindiau newydd! Bydd popeth yn newydd. Bydd popeth yn rhyfedd. Dw i ddim yn edrych ymlaen. Beth os ydy’r athrawon yn ofnadwy? Beth os dydy’r disgyblion ddim yn fy hoffi i? Beth os ydy’r gwaith yn anodd? O, dw i ddim eisiau mynd.

 

Does dim ffrindiau gyda fi yma a dw i ddim yn mynd allan llawer, ond mae Mam yn dweud bydd ffrindiau yn yr ysgol newydd. Hy!

 

O, wel, rhaid i fi fynd i’r gwely.

 

Hwyl fawr.

Chris Williams

Help
Geirfa
tywyll dark Beth os ...? What if ...?
rhyfedd strange anodd difficult
edrych ymlaen to look forward    

Ewch i Dasg 1.

Llythyr 2

 

27 Chwefror 2016

Annwyl Ciwb,

 

Dw i’n ysgrifennu atoch chi i ofyn am help.

 

Dw i’n 14 oed a dw i’n mwynhau gwylio chwaraeon ar y teledu, darllen, gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau cyfrifiadur a gwylio ffilmiau.

 

Mae gen i broblem – sut dw i’n edrych. Dw i’n dal – yn dal iawn – a dw i’n drwm hefyd – yn rhy drwm a bod yn onest. Hefyd, mae gen i smotiau coch ar fy wyneb a dydy steil fy ngwallt ddim yn fy siwtio i.

 

Dw i’n edrych mewn cylchgronau ac mae pawb yn edrych yn hyfryd – maen nhw’n denau, dydyn nhw ddim yn rhy dal a dydyn nhw ddim yn rhy fyr. Mae eu croen nhw’n berffaith ac mae eu gwallt nhw’n fendigedig. Dw i’n teimlo’n ofnadwy!

 

Achos hyn, dw i ddim yn hoffi mynd allan llawer. Mae Dad yn dweud, “Dylet ti fynd i’r ganolfan hamdden i gadw’n heini,” ac mae fy ffrindiau i’n dweud, “Beth am ddod allan gyda ni ddydd Sadwrn?” ond dw i ddim yn teimlo’n hyderus i fynd.

 

Hefyd, mae Jo, yn y dosbarth, eisiau mynd allan gyda fi, ond dw i ddim yn gwybod beth i wneud!

 

Help!

Jordan Evans

 

Ewch i Dasg 2 

Help
Geirfa
edrych to look tenau thin
trwm heavy byr short
rhy too croen skin
smotiau spots perffaith perfect
cylchgrawn, cylchgronau magazine, magazines achos hyn because of this
hyderus confident