Mae Jordan yn cael gwaith cartref:
| DYDDIADUR GWAITH CARTREF | |||
| Dyddiad | Pwnc | Tasg | Erbyn |
| 4 Gorffennaf | Cymraeg | Ysgrifennwch am beth wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn ysgol. | 11 Gorffennaf |
Dyma beth wnaeth Jordan yn ystod y flwyddyn ysgol:
05 Gorffennaf, 2016
Blwyddyn ddiddorol!
Dw i wedi eistedd tu allan i ystafell y Pennaeth am 20 awr eleni ...
Mis Medi:
Medi 3 – ’Nôl yn yr ysgol ar ôl y gwyliau – problem! Roedd fy ngwisg ysgol i’n rhy fach. Felly, gwisgais i jîns du, crys T gwyn a sbectol haul i’r ysgol. Gwelodd Miss Strangler fi’n cerdded i mewn i’r ysgol ac roedd hi’n flin. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth.
Mis Hydref:
Calan Gaeaf. Dydy Miss Evans Cymraeg ddim yn hoffi corynnod ond dw i’n hoffi corynnod! Prynais i multipack o gorynnod bach a mawr, brown a du. Rhoiais i nhw yn yr ystafell Gymraeg – ar y ddesg, o dan gadair Miss Evans, ar y silff yn y cwpwrdd, uwchben y bwrdd gwyn, wrth ochr y drws. Roedd Miss Evans yn flin. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!
Mis Rhagfyr:
Roedd coeden Nadolig dal iawn yn y neuadd ond roedd yr angel ar y top yn ddiflas iawn. Roedd hi’n wyn ac roedd hi’n edrych yn drist. Felly, argraffais i lun o’r Pennaeth, rhoi tw-tw pinc o gwmpas y llun a rhoi’r “angel” newydd ar dop y goeden. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!

Mis Ionawr:
Roedd mis Ionawr yn grêt. Roedd hi’n bwrw eira. Felly, gwnaeth fy ffrindiau a fi gaseg eira enfawr. Rholion ni’r gaseg eira ar draws y fynedfa i’r maes parcio. Doedd yr athrawon ddim yn gallu gyrru allan. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!
Mis Chwefror:
Dydd Sant Ffolant! Anfonais i gerdyn Ffolant at Miss Evans, Cymraeg. Ysgrifennais i:
I Dolores Evans, fy nghariad
Gyda llawer o gariad
Oddi wrth
John Jones (mathemateg!)
XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX
Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!
Mis Mawrth:
Dydd Gŵyl Dewi – gwych! Bwytais i saith cenhinen (fach) ar yr iard a chwydais i yn y wers technoleg. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth – a chwydais i yn ystafell y Pennaeth hefyd!
Mis Ebrill
Dydd Ffŵl Ebrill – chwaraeais i jôcs ar bawb – ac roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!
Mis Mehefin
Diwrnod mabolgampau. Des i i’r ysgol ar crutches. Roedd fy mraich i mewn sling ac roedd plaster mawr ar fy nhrwyn i. Gwelodd Mr Williams, addysg gorfforol, fi ac roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!

Mis Gorffennaf
Dw i ddim wedi eistedd tu allan i ystafell y Pennaeth eto! Ond mae syniad gyda fi ...
| Geirfa | |
| awr | hour |
| eleni | this year |
| gwisg ysgol | school uniform |
| yn flin, yn ddig, yn grac | angry |
| Calan Gaeaf | Hallowe’en |
| corynnod = pryfed cop | spiders |
| diflas | miserable, dull |
| argraffu | to print |
| caseg eira | huge snowball |
| ar draws | across |
| mynedfa | entrance |
| cenhinen | leek |
| chwydu | to be sick, vomit |
| mabolgampau | sports |
| trwyn | nose |
| addysg gorfforol | physical education |