Rydych chi’n mynd i wrando ar ddarn o’r rhaglen Teithio. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
Geirfa| Geirfa | |
| Sir Benfro | Pembrokeshire |
| clirio | to clear |
| gadael | to leave |
| sbwriel | rubbish |
| hedfan | to fly |
| adeiladau | buildings |
| uwchlaw | above |
| pabell | tent |
| offer coginio | cooking equipment |
| tarten | tart |
| gorllewin | west |
| anodd | difficult |
| gwaelod | bottom, base |
| cyfeillgar | friendly |
| Person | Sgript |
|
Cyflwynydd:
|
Croeso i raglen arall o Teithio. Heddiw yn y stiwdio, rydyn ni’n siarad â dyn o Sir Benfro – Iwan Jones. Croeso i’r stiwdio, Iwan. |
| Iwan: | Diolch. |
| Cyflwynydd: | Rydych chi wedi bod ar daith arbennig. ... Ble aethoch chi? |
| Iwan: | Es i i fyny Everest. |
| Cyflwynydd: | Bobl bach – i fyny Everest! ... Pryd aethoch chi? |
| Iwan: | Ym mis Hydref. ... Es i i fyny i Base Camp, Everest gyda grŵp o bobl i glirio’r mynydd. |
| Cyflwynydd: | I glirio’r mynydd? |
| Iwan: | Ie – i glirio’r mynydd. |
| Cyflwynydd: | Ond pam? |
| Iwan: | Mae llawer o bobl yn dringo Everest bob blwyddyn ... ac mae rhai pobl yn gadael sbwriel yno. |

|
Person |
Sgript |
|
Cyflwynydd: |
Gadael sbwriel ... ar Fynydd Everest?!?!? ... > ? Mae hynny’n ofnadwy! |
| Iwan: | Ydy. |
| Cyflwynydd: | Siaradwch am y daith, Iwan. |
| Iwan: | Wel, hedfanais i o Gatwick i Kathmandu, yn Nepal. |
| Cyflwynydd: | O Gatwick ... i Kathmandu ...? |
| Iwan: | Arhoson ni mewn gwesty yn Kathmandu am dair noson. |
| Cyflwynydd: | Waw – aros yn Kathmandu – am dair noson! ... Beth wnaethoch chi yn Kathmandu? |
| Iwan: | Es i i weld yr hen adeiladau, y Monkey Temple ... ac es i i siopa. Mae Kathmandu yn lliwgar ac yn ddiddorol – mae’n ddiddorol iawn. |
| Cyflwynydd: | Beth brynoch chi? |
| Iwan: | Prynais i grys T a souvenirs o Khatmandu. |
| Cyflwynydd: | Beth wedyn? |
|
Iwan:
|
Es i o Kathmandu i Lukla ar y bws ... ac yna cerddais i i fyny i Base Camp – dros bum mil metr uwchlaw lefel y môr. Roedd Sherpa yn cario fy rycsac i ac roedd iacs yn cario’r babell a’r offer coginio. |
| Cyflwynydd: | Coginio? Beth fwytoch chi ar y mynydd? |
| Iwan: | Tatws ... a sglodion ... bwyd India – cyrris ... tarten afal ... llawer o fwyd y gorllewin a bod yn onest. |
| Cyflwynydd: | Beth yfoch chi? |
| Iwan: | Te ... llawer o de ... a dŵr a siocled poeth. |
| Cyflwynydd: | Ble gysgoch chi? |
|
Iwan:
|
Ar y mynydd. Cysgais i mewn pabell. Roedd hi’n oer iawn yn y nos ... tua minws dau ddeg gradd Celsius ... Roedd cysgu’n anodd achos roedd hi’n oer iawn. |
| Cyflwynydd: | Siaradwch am glirio’r sbwriel ar y mynydd, Iwan. |
| Iwan: | Roeddwn i’n gwisgo menig ac roeddwn i’n rhoi’r sbwriel mewn bagiau plastig. |
| Cyflwynydd: | Sut oeddech chi’n teimlo? |
|
Iwan:
|
Roeddwn i’n hapus iawn ... Roedd y mynyddoedd yn hardd – yn hardd iawn! ... Roedd y lliwiau’n wych ... roedd y mynyddoedd yn wyn ar y top ... ond yn wyrdd iawn ar y gwaelod ... ac roedd yr awyr yn las iawn. Anhygoel! |
| Cyflwynydd: | Beth am y bobl? |
| Iwan: | Hyfryd. Roedd pobl Nepal yn gyfeillgar iawn ... ac roedd y criw clirio sbwriel yn hyfryd hefyd. |
| Cyflwynydd: | Hoffech chi fynd ’nôl? |
| Iwan: | Hoffwn – heb os nac oni bai! |