Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
Geirfa| Geirfa | |
| gogledd | north |
| chwarel lechi | slate mine |
| miloedd | thousands |
| gwifren wib | zipwire |
| dathlu | to celebrate |
| fy mhen-blwydd | my birthday |
| wedyn | afterwards, then |
| dynion | men |
| caled | hard |
| peryglus | dangerous |
| ar ddiwedd | at the end of |
| amser maith yn ôl | a long time ago |
| Person | Sgript |
| Cyflwynydd: | Cyflym ... cŵl ... cyffrous ... Cyffrous iawn! |
|
Joanne:
|
Ble ydyn ni? ... Rydyn ni yng Ngogledd Cymru. Rydyn ni mewn hen chwarel lechi ond ... ... heddiw mae Zip World yma. Mae miloedd o bobl yn dod i Zip World ... i gael amser da ... yn zipio ar y wifren wib. |
|
Cyflwynydd:
|
Ydy, mae’n hwyl ... Beth am siarad gyda Joanne? Aeth hi i Zip World dros y penwythnos. Prynhawn da, Joanne. Sut dach chi? |
| Joanne: | Da iawn, diolch. A chi? |
|
Cyflwynydd:
|
Dw i’n dda iawn, diolch. Pryd aethoch chi i Zip World? |
| Joanne: | Es i ddydd Sadwrn. |
| Cyflwynydd: | Pam aethoch chi? |
|
Joanne:
|
Es i i Zip World i ddathlu fy mhen-blwydd. Roedd e’n wych. |
| Cyflwynydd: | Beth wnaethoch chi? |
|
Joanne:
|
Wel, yn gynta gwisgais i oferôls a helmed. Yna, es i ar y wifren wib fach. |
| Cyflwynydd: | Wel, wel – gwifren wib fach ... .Beth wnaethoch chi wedyn? |
| Joanne: | Es i ar y wifren wib fawr wedyn. ... Waw – roedd hi’n ffantastig! |
| Cyflwynydd: | Beth wnaethoch chi wedyn? |
| Joanne: | Aethon ni i weld y chwarel ... Dysgon ni am y chwarel. |
| Cyflwynydd: | Beth ddysgoch chi? |
|
Joanne:
|
Wel, roedd y dynion yn gweithio’n galed iawn, iawn yn y chwarel lechi. Roedd y gwaith yn beryglus – yn beryglus iawn. Roedd y gwaith yn galed iawn. Ar ddiwedd y shifft, roedd y dynion yn dod i lawr y mynydd ar y trac. Roedd y dynion yn gweithio chwe diwrnod yr wythnos. |
| Cyflwynydd: | Hoffech chi weithio yn y chwareli llechi? |
|
Joanne: |
Hoffwn i ddim gweithio yn y chwareli amser maith yn ôl achos roedd y gwaith yn galed ... ac yn beryglus ... ond ... hoffwn i weithio yno rŵan – yn Zip World ... achos mae’n hwyl. |