Mae Carwyn Claude ...
Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
GeirfaGeirfa | |
poen | pain |
llygad, llygaid | eye, eyes |
golau | light |
braich | arm |
coes | leg |
wedi torri | have broken |
cyfergyd | concussion |
pen tost = cur pen | headache |
seren, sêr | star, stars |
Beth ddigwyddodd? | What happened? |
damwain | accident |
rhy galed | too hard |
chwaraewr | player |
cryf | strong |
cŵn poeth | hot dogs |
fel fi | like me |
Person | Sgript |
CCC:
|
Helo, dw i’n “sâl”. Mae’n grêt ... blodau ... ffrwythau ... cardiau ... grawnwin ... grawnwin ... grawnwin ... a CHWARAEON AR Y TELEDU! O, pwy sy ‘na? |
CCC:
|
Aled ...? Helo ... Dw i ddim yn dda iawn. Tu allan? Cei, wrth gwrs. Dere i mewn. |
Aled: | Sut wyt ti, Carwyn bach? |
CCC: | O, dw i mewn poen. |
Aled: | Mewn poen? |
CCC: | Dw i mewn poen ofnadwy. |
Aled:
|
O diar. Dwyt ti ddim yn edrych yn dda iawn. |
CCC: | Diolch, Aled. |
Aled: | Rwyt ti’n edrych yn sâl. |
CCC: | Diolch, Aled. |
Aled: | Rwyt ti’n edrych yn sâl iawn. |
CCC: | Diolch yn fawr Aled. |
Aled: | Dyma, ti – grawnwin. |
CCC: | Diolch yn fawr. |
Aled: | O, maen nhw’n edrych yn flasus. |
Aled:
|
Gawn ni weld ... Bobl bach – llygad ddu. |
CCC: | Aled!?!?! Mae’r golau yn fy llygaid i. |
Aled:
|
O, mae’n ddrwg gen i.
Llygad ddu iawn. |
CCC: | Diolch, Aled. |
Aled: | Rwyt ti’n edrych yn ofnadwy. |
CCC: | Diolch, Aled. |
Aled: | Beth am dy fraich di? |
CCC: | Awtsh!!!!! |
Aled: | Beth sy’n bod? |
CCC: | Dw i wedi torri fy mraich. |
Aled: | Wedi ... torri ... dy ... fraich? |
CCC: | Ydw, dw i wedi torri fy mraich. |
Aled: | O, diar ... Wyt ti mewn poen? |
CCC: | Ydw. |
Aled: | O, diar! |
Aled: | Beth am dy goes di? |
CCC: | Awtsh!!!!! |
Aled: | Beth sy’n bod? |
CCC: | Dw i wedi torri fy nghoes. |
Aled: | Wedi ... torri ... dy ... goes? |
CCC: | Ydw, dw i wedi torri fy nghoes. |
Aled: | O, diar ... Wyt ti mewn poen? |
CCC: | Ydw. |
Aled: | O, diar! |
Aled: | Beth am dy ben di? |
CCC: | Awtsh!!!!! |
Aled: | Beth sy’n bod? |
CCC: | Concussion! |
Aled: | Concussion?!? ... Cyfergyd? |
CCC: | Ie, concussion ... cyfergyd. Mae pen tost ’da fi ... a dw i’n gweld sêr ... un ... dwy ... tair ... pedair ... pump ... |
Aled: | Carwyn! |
CCC: | Ie, |
Aled: | Stopia! |
CCC: | O, iawn. |
Aled: | Beth ddigwyddodd, Carwyn? |
CCC: | Rygbi! |
Aled: | Rygbi, wrth gwrs! ... Damwain rygbi. |
Aled:
|
Damwain yn y sgrym? |
CCC: | Wel ... na ... dim cweit. |
Aled: | Cicio’r bêl yn rhy galed? |
CCC: |
Wel ... na ... dim cweit. |
Aled: | Tacl galed? |
CCC: | Wel ... na ... dim cweit. |
Aled: | Syrthio ar y cae? |
CCC: |
Wel ... na ... dim cweit. |
Aled: | Taclo chwaraewr mawr ar y tîm arall? |
CCC: |
Wel ... na ... dim cweit. |
Aled: | Wel beth ddigwyddodd, Carwyn? |
CCC: | Roeddwn i mewn ciw. |
Aled: | Ciw – ciw ar y cae rygbi? |
CCC:
|
Ciw – ie, ciw wrth y fan cŵn poeth. Roeddwn i eisiau byrger. |
Aled: |
O? |
CCC: |
Prynais i’r byrger ... |
Aled: |
Ie ...? |
CCC: |
Talais i am y byrger ... |
Aled: |
Ie ...? |
CCC: | Bwytais i ddarn o’r byrger. |
Aled: |
Ie ...? |
CCC: |
Roedd e’n flasus iawn. |
Aled: |
Ie ...? |
CCC: |
Syrthiodd sôs coch ar y llawr ... |
Aled: |
Ie ...? |
CCC: |
Cerddais i ... a ... syrthiais i ar y sôs coch. |
Aled: |
O, na! |
CCC: |
Syrthiais i ... i mewn i’r ciw ... |
Aled: |
O, diar! |
CCC: |
A syrthiodd pawb i lawr y grisiau – fel dominos. |
Aled: |
Pawb? |
CCC: |
Pawb yn y ciw. |
Aled: |
Sut mae’r bobl yn y ciw? |
CCC: | |
Aled: | Wps! |