Pwy ydych chi?
 
Pwy ydych chi?
Catherine Eira Davies ydw i ond “Shedog” ydw i pan dw i’n chwarae roller derby.
Ble ydych chi’n byw?
Dw i’n byw yn Ninbych.
O ble ydych chi’n dod?
Dw i’n dod o Swindon. Dw i wedi dysgu Cymraeg.
Beth ydy’ch hobi chi?
Dw i’n mwynhau roller derby.
Pryd dechreuoch chi?
Dechreuais i yn 2012.
Pam dechreuoch chi?
Gwelais i ffilm o’r enw Whip it a meddyliais i, “Mae roller derby’n hwyl!”
Sut dechreuoch chi?
Chwiliais i am dîm lleol a dechreuais i chwarae i dîm Gogledd Cymru. Dw i wedi chwarae dros Gymru hefyd.
Pam ydych chi’n hoffi’r gamp?
Mae’n gyflym, yn dactegol, yn llawn cyffro a hwyl – a dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau hefyd.
Roller derby
Mae roller derby yn gêm galed – mae’n galed iawn achos mae pobl yn taro i mewn i chi.
Rydych chi’n gwisgo esgidiau sglefrio a rhaid gwisgo padiau a helmed.
Mae pob gêm yn para 60 munud – dau hanner o 30 munud.
Mae’r timau’n chwarae ar drac hirgrwn.
Mae 5 chwaraewr ym mhob tîm – un pivot, tri blocker ac un jammer.
Rhaid i'r jammer sglefrio heibio’r tîm arall i ennill pwyntiau – ond mae’r tim arall yn trio stopio’r jammer.
Mae merched a bechgyn yn chwarae roller derby.
Mae roller derby yn dod yn fwy a mwy poblogaidd rŵan.
Os ydych chi eisiau gweld roller derby, ewch i:
Geirfa
| Geirfa | |
| chwilio am | to look for | 
| lleol | local | 
| camp | sport | 
| llawn cyffro | full of excitement | 
| caled | hard | 
| taro i mewn i | to knock into | 
| esgidiau sglefrio | roller skates | 
| para | to last | 
| hirgrwn | oval | 
| ym mhob | in every | 
| sglefrio | to skate | 
| heibio | past | 
| yn fwy a mwy poblogaidd | more and more popular | 
tactegol