Dyma eitem o newyddion – ond ydy’r stori’n wir? Darllenwch y newyddion ac yna ewch i Tasg 1.
Roedd Karen Prior, 68 oed, yn eistedd wrth afon Three Mile Creek, Gorllewin Awstralia.
Yn sydyn, neidiodd crocodeil o’r dŵr a gafael yn ei braich.
Torrodd y crocodeil y fraich i ffwrdd. Rhedodd Karen o’r afon. Rhedodd hi i’r ffordd a daeth car i fyny’r ffordd. Stopiodd y car a dwedodd y gyrrwr, “Brysia - i mewn i’r car! Rhaid mynd i’r ysbyty.”
“Na, dw i’n gwaedu,” dwedodd Karen.” Bydd gwaed yn y car.”
“Dim ots!” dwedodd y dyn. Aeth Karen i mewn i’r car a gyrroddd y dyn hi i’r ysbyty.
Chwilio am y crocodeil
Yna, aeth pobl allan i chwilio am y crocodeil.
Ffeindion nhw fe. Lladdon nhw fe. Agoron nhw’r crocodeil. Beth oedd yn stumog y crocodeil? Braich a llaw Karen Prior.
Aethon nhw â’r fraich i’r ysbyty. Pwythodd y doctoriaid fraich a llaw Karen Prior ’nôl.
Geirfa |
|
braich | arm |
gafael yn |
to get hold of |
torri i ffwrdd |
to cut off |
gwaedu |
to bleed |
gwaed |
blood |
Dim ots! |
Nevermind! |
chwilio am |
to look for |
llaw |
hand |
aethon nhw â’r |
they took the |
pwytho |
to stitch |