Rhifyn 12 - Edrych ’nôl

Ble mae Jo?

Ble mae Jo?

01 Mai, 2016

Nos Fercher

Dw i ar drip ysgol a dw i’n cael amser ffantastig.

Dw i wedi bod ar drip ar yr afon. Dw i wedi bod i’r siopau smart a dw i wedi bod i fyny’r tŵr enwog. Dw i wedi bwyta bwyd blasus dros ben a dw i wedi cael llawer o hwyl gyda ffrindiau.

Heddiw, roedd hi’n bwrw glaw’n drwm ac felly aethon ni o dan y strydoedd. Ie – o dan y strydoedd! Aethon ni i lawr i’r sewers.

Roedd hi’n drewi ond roedd hi’n ddiddorol iawn. Cerddon ni yn y twneli tywyll – roedd modelau yno. Dysgon ni am y sewers. Gwelon ni ffilm am y sewers. Cerddon ni o gwmpas y sewers. Yna, aethon ni i’r siop.

Pan ddaethon ni allan, roedd hi’n bwrw glaw o hyd. Felly, dwedodd Madame Jones, “Beth am fynd i fwy o dwneli? Beth am fynd i’r catacombs?”

“Catacombs? Beth ydy catacombs” gofynnais i. “Dewch i weld,” dwedodd Madame Jones.

Felly, aethon ni i’r metro (twnnel arall!) ac aethon ni i mewn i’r catacombs. Roedden nhw’n sbwci ond roedden nhw’n ddiddorol.

Gobeithio bydd hi’n braf yfory achos dw i ddim eisiau mynd i fwy o dwneli.

y sewers

y catacombs

y catacombs

Geirfa
Geirfa
dros ben extremely
drewi to stink
tywyll dark
o hyd still
gobeithio I hope

 


Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

tunnels

models