Rhifyn 12 - Edrych ’nôl

Blwyddyn ddiddorol!

Blwyddyn ddiddorol!

Mae Jordan yn cael gwaith cartref:

 

DYDDIADUR GWAITH CARTREF
Dyddiad Pwnc Tasg Erbyn
4 Gorffennaf Cymraeg Ysgrifennwch am beth wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn ysgol. 11 Gorffennaf

 

Dyma beth wnaeth Jordan yn ystod y flwyddyn ysgol:

 

05 Gorffennaf, 2016

Blwyddyn ddiddorol!

Dw i wedi eistedd tu allan i ystafell y Pennaeth am 20 awr eleni ...

Mis Medi:

Medi 3 – ’Nôl yn yr ysgol ar ôl y gwyliau – problem! Roedd fy ngwisg ysgol i’n rhy fach. Felly, gwisgais i jîns du, crys T gwyn a sbectol haul i’r ysgol. Gwelodd Miss Strangler fi’n cerdded i mewn i’r ysgol ac roedd hi’n flin. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth.

Mis Hydref:

Calan Gaeaf.  Dydy Miss Evans Cymraeg ddim yn hoffi corynnod ond dw i’n hoffi corynnod!  Prynais i multipack o gorynnod bach a mawr, brown a du. Rhoiais i nhw yn yr ystafell Gymraeg – ar y ddesg, o dan gadair Miss Evans, ar y silff yn y cwpwrdd, uwchben y bwrdd gwyn, wrth ochr y drws. Roedd Miss Evans yn flin. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!

Mis Rhagfyr:

Roedd coeden Nadolig dal iawn yn y neuadd ond roedd yr angel ar y top yn ddiflas iawn. Roedd hi’n wyn ac roedd hi’n edrych yn drist. Felly, argraffais i lun o’r Pennaeth, rhoi tw-tw pinc o gwmpas y llun a rhoi’r “angel” newydd ar dop y goeden. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!

Mis Ionawr:

Roedd mis Ionawr yn grêt. Roedd hi’n bwrw eira. Felly, gwnaeth fy ffrindiau a fi gaseg eira enfawr. Rholion ni’r gaseg eira ar draws y fynedfa i’r maes parcio. Doedd yr athrawon ddim yn gallu gyrru allan. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!

Mis Chwefror:

Dydd Sant Ffolant! Anfonais i gerdyn Ffolant at Miss Evans, Cymraeg. Ysgrifennais i: 

I Dolores Evans, fy nghariad

Gyda llawer o gariad

Oddi wrth

John Jones (mathemateg!)

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

 

Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth! 

Mis Mawrth:

Dydd Gŵyl Dewi – gwych! Bwytais i saith cenhinen (fach) ar yr iard a chwydais i yn y wers technoleg. Roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth – a chwydais i yn ystafell y Pennaeth hefyd!

Mis Ebrill

Dydd Ffŵl Ebrill – chwaraeais i jôcs ar bawb – ac roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!

Mis Mehefin

Diwrnod mabolgampau. Des i i’r ysgol ar crutches. Roedd fy mraich i mewn sling ac roedd plaster mawr ar fy nhrwyn i. Gwelodd Mr Williams, addysg gorfforol, fi ac roedd rhaid i fi fynd i weld y Pennaeth!

Mis Gorffennaf

Dw i ddim wedi eistedd tu allan i ystafell y Pennaeth eto! Ond mae syniad gyda fi ...

Geirfa