Rhifyn 12 - Edrych ’nôl

Edrych ’nôl

Edrych ’nôl

Edrych ’nôl

 

Blasais i grempog,

cawl poeth a chacennau cri

ac wyau siocled.

 

Aroglais i’r môr,

byrgers ar y barbeciw

a blodau hyfryd.

 

Clywais i chwerthin,

BANG! ... CRAC! ... CRIC! – tân gwyllt lliwgar

a fflamau coelcerth.

 

Teimlais i’r eira,

y rhew caled dan fy nhraed

a chot gynnes braf.

 

Non ap Emlyn

 

 

Y synhwyrau:

The senses:

blasu to taste
arogli to smell
clywed to hear
teimlo to feel

Mae un ar goll – pa un?

Geirfa
Geirfa
tymor, tymhorau season, seasons
crempog pancake
cacennau cri = pice ar y maen Welsh cakes
chwerthin to laugh
tân gwyllt fireworks
lliwgar colourful
coelcerth bonfire
rhew ice
caled hard
(o) dan under, beneath
fy nhraed my feet
synhwyrau senses
ar goll missing