Mae Sam yn edrych ’nôl dros y flwyddyn ...
30 Mawrth, 2016
Medi:
Dechreuais i chwarae yn y band yn yr ysgol achos dw i’n mwynhau chwarae’r drymiau (ac mae Jo yn canu’r ffliwt! Dw i’n hoffi Jo!)
Hydref:
Aeth Matt, Paul, Bex, Assha a fi i gig yn y parc ond roedd hi’n ddiflas iawn achos roedd hi’n bwrw glaw.
Tachwedd:
Yn yr ysgol, helpais i i godi arian at Blant mewn Angen. Gwisgais i wisg ffansi a rhedais i o gwmpas y cae.
Es i i weld Rali GB gyda Jordan.
Rhagfyr:
Es i i barti Nadolig yn yr ysgol ar Ragfyr 18. Roedd e’n hwyl achos roedd y bwyd yn flasus iawn ac roedd y gerddoriaeth yn wych. Dawnsiais i gyda Jo – noson grêt!
Ionawr:
Ces i gerdyn Santes Dwynwen oddi wrth rywun yn y dosbarth. Dw i ddim yn gwybod pwy! (Jo efallai? Gobeithio!)
Chwefror:
Fy mhen-blwydd.
Ces i syrpreis gwych – tocynnau i fynd i’r O2 yn Llundain gyda Dad i weld y nitro circus.
Gwelais i bobl yn gwneud styntiau ar eu beiciau. Roedden nhw’n anhygoel!
Mawrth:
Dydd Gŵyl Dewi – bwyton ni fwyd o Gymru yn y wers Gymraeg. Dydd San Padrig – gwisgon ni ddillad gwyrdd i’r ysgol. Roedd y Pennaeth yn edrych yn cŵl iawn mewn sbectol haul!
Ebrill:
Bwytais i lawer o wyau Pasg – gormod o wyau Pasg!
Mai:
Es i i’r penwythnos Fictoraidd yn Llandudno. Roedd llawer o bobl yn gwisgo hen ddillad ac roedd hen ffair yn y dref. Roedd e’n hwyl.
Mehefin:
Es i i Eisteddfod yr Urdd achos roeddwn i’n chwarae’r drymiau yn y band. Roedd y band yn ardderchog a bod yn onest ond enillon ni ddim. Dim ots – y flwyddyn nesa efallai ...
Geirfa | |
eleni | this year |
drymiau | drums |
diflas | miserable |
codi | to raise |
Plant mewn Angen | Children in Need |
cerddoriaeth | music |
oddi wrth | from |
rhywun | someone |
efallai | perhaps |
gobeithio | hope so |
tocynnau | tickets |
anhygoel | incredible |
pennaeth | head teacher |
gormod o | too many |
Dim ots! | Never mind! |
y flwyddyn nesa | next year |
gwisg ffansi
styntiau
sbectol haul