Rydych chi’n mynd i wrando ar ddarn o’r rhaglen Teithio. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
GeirfaGeirfa | |
Sir Benfro | Pembrokeshire |
clirio | to clear |
gadael | to leave |
sbwriel | rubbish |
hedfan | to fly |
adeiladau | buildings |
uwchlaw | above |
pabell | tent |
offer coginio | cooking equipment |
tarten | tart |
gorllewin | west |
anodd | difficult |
gwaelod | bottom, base |
cyfeillgar | friendly |
Person | Sgript |
Cyflwynydd:
|
Croeso i raglen arall o Teithio. Heddiw yn y stiwdio, rydyn ni’n siarad â dyn o Sir Benfro – Iwan Jones. Croeso i’r stiwdio, Iwan. |
Iwan: | Diolch. |
Cyflwynydd: | Rydych chi wedi bod ar daith arbennig. ... Ble aethoch chi? |
Iwan: | Es i i fyny Everest. |
Cyflwynydd: | Bobl bach – i fyny Everest! ... Pryd aethoch chi? |
Iwan: | Ym mis Hydref. ... Es i i fyny i Base Camp, Everest gyda grŵp o bobl i glirio’r mynydd. |
Cyflwynydd: | I glirio’r mynydd? |
Iwan: | Ie – i glirio’r mynydd. |
Cyflwynydd: | Ond pam? |
Iwan: | Mae llawer o bobl yn dringo Everest bob blwyddyn ... ac mae rhai pobl yn gadael sbwriel yno. |
Person |
Sgript |
Cyflwynydd: |
Gadael sbwriel ... ar Fynydd Everest?!?!? ... > ? Mae hynny’n ofnadwy! |
Iwan: | Ydy. |
Cyflwynydd: | Siaradwch am y daith, Iwan. |
Iwan: | Wel, hedfanais i o Gatwick i Kathmandu, yn Nepal. |
Cyflwynydd: | O Gatwick ... i Kathmandu ...? |
Iwan: | Arhoson ni mewn gwesty yn Kathmandu am dair noson. |
Cyflwynydd: | Waw – aros yn Kathmandu – am dair noson! ... Beth wnaethoch chi yn Kathmandu? |
Iwan: | Es i i weld yr hen adeiladau, y Monkey Temple ... ac es i i siopa. Mae Kathmandu yn lliwgar ac yn ddiddorol – mae’n ddiddorol iawn. |
Cyflwynydd: | Beth brynoch chi? |
Iwan: | Prynais i grys T a souvenirs o Khatmandu. |
Cyflwynydd: | Beth wedyn? |
Iwan:
|
Es i o Kathmandu i Lukla ar y bws ... ac yna cerddais i i fyny i Base Camp – dros bum mil metr uwchlaw lefel y môr. Roedd Sherpa yn cario fy rycsac i ac roedd iacs yn cario’r babell a’r offer coginio. |
Cyflwynydd: | Coginio? Beth fwytoch chi ar y mynydd? |
Iwan: | Tatws ... a sglodion ... bwyd India – cyrris ... tarten afal ... llawer o fwyd y gorllewin a bod yn onest. |
Cyflwynydd: | Beth yfoch chi? |
Iwan: | Te ... llawer o de ... a dŵr a siocled poeth. |
Cyflwynydd: | Ble gysgoch chi? |
Iwan:
|
Ar y mynydd. Cysgais i mewn pabell. Roedd hi’n oer iawn yn y nos ... tua minws dau ddeg gradd Celsius ... Roedd cysgu’n anodd achos roedd hi’n oer iawn. |
Cyflwynydd: | Siaradwch am glirio’r sbwriel ar y mynydd, Iwan. |
Iwan: | Roeddwn i’n gwisgo menig ac roeddwn i’n rhoi’r sbwriel mewn bagiau plastig. |
Cyflwynydd: | Sut oeddech chi’n teimlo? |
Iwan:
|
Roeddwn i’n hapus iawn ... Roedd y mynyddoedd yn hardd – yn hardd iawn! ... Roedd y lliwiau’n wych ... roedd y mynyddoedd yn wyn ar y top ... ond yn wyrdd iawn ar y gwaelod ... ac roedd yr awyr yn las iawn. Anhygoel! |
Cyflwynydd: | Beth am y bobl? |
Iwan: | Hyfryd. Roedd pobl Nepal yn gyfeillgar iawn ... ac roedd y criw clirio sbwriel yn hyfryd hefyd. |
Cyflwynydd: | Hoffech chi fynd ’nôl? |
Iwan: | Hoffwn – heb os nac oni bai! |