Ydych chi’n gwybod beth ydy “geocelcio” – geocaching yn Saesneg?
Gêm ydy hi – rydych chi’n defnyddio ap ar y ffôn neu GPS i ffeindio celc – y cache.
Beth ydy’r celc? Anrheg fach, fel bathodyn neu bêl neu fodel bach.
Edrychwch - chwilio am y celc yn y goedwig.
Dyma’r celc – o dan y goeden.
Beth sy yn y bocs, tybed?
Mae Jac wedi dechrau geocelcio. Darllenwch y llythyr yma.
Annwyl Ciwb,
Dydd Sadwrn, es i allan gyda Chris, fy ffrind, i geocelcio. Roedd o’n gyffrous iawn.
Yn gynta, aeth Chris a fi ar y we i weld ble roedd celc yn yr ardal. Ysgrifennon ni’r cyfesurynnau yn yr ap ar fy ffôn ac yna aethon ni i chwilio am y celc.
Cerddon ni i lawr y stryd ... heibio’r siopau ... heibio’r pwll nofio ... i fyny’r bryn ... ac i’r parc. Roedd hi’n braf iawn – roedd hi’n heulog ac yn gynnes. Aethon ni i mewn i’r parc a dilynon ni’r GPS drwy’r parc at y coed.
Yn sydyn, gwelon ni focs bach arian o dan goeden. Agoron ni’r bocs. Roedd llyfr bach, pensil a dau fathodyn yn y bocs. Ysgrifennais i fy enw i ac enw Rhys yn y llyfr. Gwisgais i un o’r bathodynnau a gwisgodd Chris y bathodyn arall. Rhoiais i bêl fach yn y bocs – yn lle’r bathodynnau.
Aethon ni adre ac ysgrifennon ni ar y we am y celc.
Roedd o’n hwyl. Mwynheuais i gerdded i’r parc gyda Chris yn yr haul achos siaradon ni a chwarddon ni. Mwynheuais i chwilio am y celc a mwynheuais i ffeindio’r celc. Roedd o’n gyffrous. Dw i eisiau mynd eto wythnos nesaf achos dw i wrth fy modd yn geocelcio!
Pob hwyl
Jac
Os ydych chi eisiau mynd i geocelcio, ewch i:
https://www.geocaching.com/play
GeirfaGeirfa | |
defnyddio | to use |
anrheg | present |
bathodyn | badge |
yn gynta | firstly |
cyfesurynnau | co-ordinates |
dilyn | to follow |
yn lle | instead |
chwarddon ni | we laughed |