Rhifyn 12 - Edrych ’nôl

Heddiw ... a ... ddoe

Heddiw ... a ... ddoe

Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.

Geirfa
Geirfa
gogledd north
chwarel lechi slate mine
miloedd thousands
gwifren wib zipwire
dathlu to celebrate
fy mhen-blwydd my birthday
wedyn afterwards, then
dynion men
caled hard
peryglus dangerous
ar ddiwedd at the end of
amser maith yn ôl a long time ago

Loading the player...
Trawsgrif
Person Sgript
Cyflwynydd: Cyflym ... cŵl ... cyffrous  ... Cyffrous iawn!

Joanne:

 

 

 

 

Ble ydyn ni? ... 

Rydyn ni yng Ngogledd Cymru. 

Rydyn ni mewn hen chwarel lechi ond ... 

... heddiw mae Zip World yma. 

Mae miloedd o bobl yn dod i Zip World ... i gael amser da ... yn zipio ar y wifren wib.

Cyflwynydd:

 

 

Ydy, mae’n hwyl ... Beth am siarad gyda Joanne? Aeth hi i Zip World dros y penwythnos.

Prynhawn da, Joanne.

Sut dach chi?

Joanne: Da iawn, diolch. A chi?

Cyflwynydd:

 

Dw i’n dda iawn, diolch.

Pryd aethoch chi i Zip World?

Joanne: Es i ddydd Sadwrn.
Cyflwynydd: Pam aethoch chi?

Joanne:

 

Es i i Zip World i ddathlu fy mhen-blwydd.

Roedd e’n wych.

Cyflwynydd: Beth wnaethoch chi?

Joanne:

 

Wel, yn gynta gwisgais i oferôls a helmed. 

Yna, es i ar y wifren wib fach.

Cyflwynydd: Wel, wel – gwifren wib fach ... .Beth wnaethoch chi wedyn?
Joanne: Es i ar y wifren wib fawr wedyn. ... Waw – roedd hi’n ffantastig!
Cyflwynydd: Beth wnaethoch chi wedyn?
Joanne: Aethon ni i weld y chwarel ... Dysgon ni am y chwarel.
Cyflwynydd: Beth ddysgoch chi?

Joanne:

 

 

 

 

Wel, roedd y dynion yn gweithio’n galed iawn, iawn yn y chwarel lechi.

Roedd y gwaith yn beryglus – yn beryglus iawn.

Roedd y gwaith yn galed iawn. 

Ar ddiwedd y shifft, roedd y dynion yn dod i lawr y mynydd ar y trac. 

Roedd y dynion yn gweithio chwe diwrnod yr wythnos. 

Cyflwynydd: Hoffech chi weithio yn y chwareli llechi?

Joanne:

Hoffwn i ddim gweithio yn y chwareli amser maith yn ôl achos roedd y gwaith yn galed ... ac yn beryglus ... ond ... hoffwn i weithio yno rŵan – yn Zip World ... achos mae’n hwyl.