Mae Carwyn Claude ...
Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
Geirfa| Geirfa | |
| poen | pain |
| llygad, llygaid | eye, eyes |
| golau | light |
| braich | arm |
| coes | leg |
| wedi torri | have broken |
| cyfergyd | concussion |
| pen tost = cur pen | headache |
| seren, sêr | star, stars |
| Beth ddigwyddodd? | What happened? |
| damwain | accident |
| rhy galed | too hard |
| chwaraewr | player |
| cryf | strong |
| cŵn poeth | hot dogs |
| fel fi | like me |
| Person | Sgript |
|
CCC:
|
Helo, dw i’n “sâl”. Mae’n grêt ... blodau ... ffrwythau ... cardiau ... grawnwin ... grawnwin ... grawnwin ... a CHWARAEON AR Y TELEDU! O, pwy sy ‘na? |
|
CCC:
|
Aled ...? Helo ... Dw i ddim yn dda iawn. Tu allan? Cei, wrth gwrs. Dere i mewn. |
| Aled: | Sut wyt ti, Carwyn bach? |
| CCC: | O, dw i mewn poen. |
| Aled: | Mewn poen? |
| CCC: | Dw i mewn poen ofnadwy. |
|
Aled:
|
O diar. Dwyt ti ddim yn edrych yn dda iawn. |
| CCC: | Diolch, Aled. |
| Aled: | Rwyt ti’n edrych yn sâl. |
| CCC: | Diolch, Aled. |
| Aled: | Rwyt ti’n edrych yn sâl iawn. |
| CCC: | Diolch yn fawr Aled. |
| Aled: | Dyma, ti – grawnwin. |
| CCC: | Diolch yn fawr. |
| Aled: | O, maen nhw’n edrych yn flasus. |
|
Aled:
|
Gawn ni weld ... Bobl bach – llygad ddu. |
| CCC: | Aled!?!?! Mae’r golau yn fy llygaid i. |
|
Aled:
|
O, mae’n ddrwg gen i.
Llygad ddu iawn. |
| CCC: | Diolch, Aled. |
| Aled: | Rwyt ti’n edrych yn ofnadwy. |
| CCC: | Diolch, Aled. |
| Aled: | Beth am dy fraich di? |
| CCC: | Awtsh!!!!! |
| Aled: | Beth sy’n bod? |
| CCC: | Dw i wedi torri fy mraich. |
| Aled: | Wedi ... torri ... dy ... fraich? |
| CCC: | Ydw, dw i wedi torri fy mraich. |
| Aled: | O, diar ... Wyt ti mewn poen? |
| CCC: | Ydw. |
| Aled: | O, diar! |
| Aled: | Beth am dy goes di? |
| CCC: | Awtsh!!!!! |
| Aled: | Beth sy’n bod? |
| CCC: | Dw i wedi torri fy nghoes. |
| Aled: | Wedi ... torri ... dy ... goes? |
| CCC: | Ydw, dw i wedi torri fy nghoes. |
| Aled: | O, diar ... Wyt ti mewn poen? |
| CCC: | Ydw. |
| Aled: | O, diar! |
| Aled: | Beth am dy ben di? |
| CCC: | Awtsh!!!!! |
| Aled: | Beth sy’n bod? |
| CCC: | Concussion! |
| Aled: | Concussion?!? ... Cyfergyd? |
| CCC: | Ie, concussion ... cyfergyd. Mae pen tost ’da fi ... a dw i’n gweld sêr ... un ... dwy ... tair ... pedair ... pump ... |
| Aled: | Carwyn! |
| CCC: | Ie, |
| Aled: | Stopia! |
| CCC: | O, iawn. |
| Aled: | Beth ddigwyddodd, Carwyn? |
| CCC: | Rygbi! |
| Aled: | Rygbi, wrth gwrs! ... Damwain rygbi. |
|
Aled:
|
Damwain yn y sgrym? |
| CCC: | Wel ... na ... dim cweit. |
| Aled: | Cicio’r bêl yn rhy galed? |
| CCC: |
Wel ... na ... dim cweit. |
| Aled: | Tacl galed? |
| CCC: | Wel ... na ... dim cweit. |
| Aled: | Syrthio ar y cae? |
| CCC: |
Wel ... na ... dim cweit. |
| Aled: | Taclo chwaraewr mawr ar y tîm arall? |
| CCC: |
Wel ... na ... dim cweit. |
| Aled: | Wel beth ddigwyddodd, Carwyn? |
| CCC: | Roeddwn i mewn ciw. |
| Aled: | Ciw – ciw ar y cae rygbi? |
|
CCC:
|
Ciw – ie, ciw wrth y fan cŵn poeth. Roeddwn i eisiau byrger. |
| Aled: |
O? |
| CCC: |
Prynais i’r byrger ... |
| Aled: |
Ie ...? |
| CCC: |
Talais i am y byrger ... |
| Aled: |
Ie ...? |
| CCC: | Bwytais i ddarn o’r byrger. |
| Aled: |
Ie ...? |
| CCC: |
Roedd e’n flasus iawn. |
| Aled: |
Ie ...? |
| CCC: |
Syrthiodd sôs coch ar y llawr ... |
| Aled: |
Ie ...? |
| CCC: |
Cerddais i ... a ... syrthiais i ar y sôs coch. |
| Aled: |
O, na! |
| CCC: |
Syrthiais i ... i mewn i’r ciw ... |
| Aled: |
O, diar! |
| CCC: |
A syrthiodd pawb i lawr y grisiau – fel dominos. |
| Aled: |
Pawb? |
| CCC: |
Pawb yn y ciw. |
| Aled: |
Sut mae’r bobl yn y ciw? |
| CCC: | |
| Aled: | Wps! |