Rhifyn 12 - Edrych ’nôl

O, diar!

O, diar!

Mae Carwyn Claude ...

Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.

Geirfa
Geirfa
poen pain
llygad, llygaid eye, eyes
golau light
braich arm
coes leg
wedi torri have broken
cyfergyd concussion
pen tost = cur pen headache
seren, sêr star, stars
Beth ddigwyddodd? What happened?
damwain accident
rhy galed too hard
chwaraewr player
cryf strong
cŵn poeth hot dogs
 fel fi  like me

Loading the player...
Trawsgrif
Person Sgript

CCC:

 

 

Helo, dw i’n “sâl”. 

Mae’n grêt ... blodau ... ffrwythau ... cardiau ... grawnwin ... grawnwin ... grawnwin ... a CHWARAEON AR Y TELEDU!

O, pwy sy ‘na?

CCC:

 

 

 

 

Aled ...?  

Helo ...  

Dw i ddim yn dda iawn.  

Tu allan?  

Cei, wrth gwrs. Dere i mewn.  

Aled: Sut wyt ti, Carwyn bach?
CCC: O, dw i mewn poen.
Aled: Mewn poen?
CCC: Dw i mewn poen ofnadwy.

Aled:

 

O diar.

Dwyt ti ddim yn edrych yn dda iawn.

CCC: Diolch, Aled.
Aled: Rwyt ti’n edrych yn sâl.
CCC: Diolch, Aled.
Aled: Rwyt ti’n edrych yn sâl iawn.
CCC: Diolch yn fawr Aled.
Aled: Dyma, ti – grawnwin.
CCC: Diolch yn fawr.
Aled: O, maen nhw’n edrych yn flasus.

Aled:

 

Gawn ni weld ... 

Bobl bach – llygad ddu.

CCC:  Aled!?!?! Mae’r golau yn fy llygaid i.

Aled:

 

O, mae’n ddrwg gen i.

Llygad ddu iawn.

CCC: Diolch, Aled.
Aled: Rwyt ti’n edrych yn ofnadwy.
CCC: Diolch, Aled.
Aled: Beth am dy fraich di?
CCC: Awtsh!!!!!
Aled: Beth sy’n bod?
CCC: Dw i wedi torri fy mraich.
Aled: Wedi ... torri ... dy ... fraich?
CCC: Ydw, dw i wedi torri fy mraich.
Aled: O, diar ... Wyt ti mewn poen?
CCC: Ydw.
Aled: O, diar!
Aled: Beth am dy goes di?
CCC: Awtsh!!!!!
Aled: Beth sy’n bod?
CCC: Dw i wedi torri fy nghoes.
Aled: Wedi ... torri ... dy ... goes?
CCC: Ydw, dw i wedi torri fy nghoes.
Aled: O, diar ... Wyt ti mewn poen?
CCC: Ydw.
Aled: O, diar!
Aled: Beth am dy ben di?
CCC: Awtsh!!!!!
Aled: Beth sy’n bod?
CCC: Concussion!
Aled: Concussion?!? ... Cyfergyd?
CCC: Ie, concussion ... cyfergyd. Mae pen tost ’da fi ... a dw i’n gweld sêr ... un ... dwy ... tair ... pedair ... pump ...
Aled: Carwyn!
CCC: Ie,
Aled: Stopia!
CCC: O, iawn.
Aled: Beth ddigwyddodd, Carwyn?
CCC: Rygbi!
Aled: Rygbi, wrth gwrs! ... Damwain rygbi.

Aled:

 

Beth ddigwyddodd?

Damwain yn y sgrym?

CCC:  Wel ... na ... dim cweit.
Aled: Cicio’r bêl yn rhy galed?
CCC:

Wel ... na ... dim cweit.

Aled: Tacl galed?
CCC: Wel ... na ... dim cweit.
Aled: Syrthio ar y cae?
CCC:

Wel ... na ... dim cweit.

Aled: Taclo chwaraewr mawr ar y tîm arall?
CCC:

Wel ... na ... dim cweit.

Aled: Wel beth ddigwyddodd, Carwyn?
CCC: Roeddwn i mewn ciw.
Aled: Ciw – ciw ar y cae rygbi?

CCC:

 

Ciw – ie, ciw wrth y fan cŵn poeth.

Roeddwn i eisiau byrger.

Aled:

O?

CCC:

Prynais i’r byrger ...

Aled:

Ie ...?

CCC:

Talais i am y byrger ...

Aled:

Ie ...?

CCC: Bwytais i ddarn o’r byrger.
Aled:

Ie ...?

CCC:

Roedd e’n flasus iawn.

Aled:

Ie ...?

CCC:

Syrthiodd sôs coch ar y llawr ...

Aled:

Ie ...?

CCC:

Cerddais i ... a ... syrthiais i ar y sôs coch.

Aled:

O, na!

CCC:

Syrthiais i ... i mewn i’r ciw ...

Aled:

O, diar!

CCC:

A syrthiodd pawb i lawr y grisiau – fel dominos.

Aled:

Pawb?

CCC:

Pawb yn y ciw.

Aled:

Sut mae’r bobl yn y ciw?

CCC:

Fel fi!

Aled: Wps!