Rhifyn 12 - Edrych ’nôl

Y Parti

Y Parti

 

Darllenwch y llythyr yma oddi wrth Carla.

 

Annwyl Ciwb,

 

Roedd parti yn nhŷ Sophie nos Sadwrn. Roeddwn i’n edrych ymlaen at fynd achos roedd Josh (Blwyddyn 10) yn mynd i’r parti. Roedd Anna’n mynd i ddod efo fi ond ffoniodd hi cyn y parti – roedd hi’n sâl a doedd hi ddim yn dod.  Roeddwn i’n siomedig ond roeddwn i eisiau mynd i’r parti. Dw i’n hoffi partïon!

 

Es i i’r parti am wyth o’r gloch. Roedd pawb o’r dosbarth yno ond roedden nhw mewn grwpiau ffrindiau. Roedd rhai’n dawnsio. Roedd rhai’n siarad. Roedd rhai’n bwyta, yn gwylio’r dawnsio. Roeddwn i’n teimlo’n unig.

 

Es i allan i’r gegin i gael diod. Roedd Sophie, Josh ac Alice yno. “Haia,” dwedais i. Atebon nhw ddim. Roedden nhw’n siarad ac yn chwerthin. Roeddwn i’n teimlo’n unig iawn.

Carla

 

 

Geirfa
Geirfa
edrych ymlaen at to look forward to
cyn before
siomedig disappointed
partïon parties
unig lonely
chwerthin to laugh