Cymraeg - hwyl, gŵyl a gwaith

Gweithio mewn salon cŵn

Gweithio mewn salon cŵn

Beth ydy’ch enw chi?

Catherine Eira Davies ydw i.

O ble ydych chi’n dod

Dw i’n dod o Swindon.

Ble ydych chi’n byw rŵan?

Dw i’n byw yn Ninbych rŵan.

Beth ydy’ch gwaith chi?

Mae gen i salon cŵn. Enw’r busnes ydy Cat's Dogs.

Ydych chi’n mwynhau’r gwaith?

Ydw, dw i’n mwynhau’r gwaith yn fawr achos dw i’n caru anifeiliaid a dw i’n mwynhau gweithio efo fy nwylo.

Beth yn union ydych chi’n wneud?

Dw i’n golchi’r cŵn ac yn torri eu blew. Dw i’n torri ewinedd y cŵn ac yn glanhau eu clustiau nhw. Mae’r cŵn yn hapus iawn!

Oes gennych chi stori ddiddorol am y gwaith?

Oes.  Mae gen i gi ac, unwaith, defnyddiais i siampŵ newydd ar fy nghi i. Ci gwyn oedd o – cyn y siampŵ – ond ar ôl y siampŵ, roedd o’n biws!

Ydy Cymraeg yn bwysig yn eich gwaith chi?

Ydy. Dw i’n siarad Cymraeg efo’r Cymry ac mae hyn yn bwysig. Mae rhai pobl yn dewis salon achos maen nhw eisiau siarad Cymraeg. Hefyd rhaid i mi siarad Cymraeg efo’r cŵn os ydyn nhw’n dod o gartrefi Cymraeg achos dydyn nhw ddim yn deall Saesneg. Dw i ddim yn dweud “Sit” neu “Stand” i gŵn o gartrefi Cymraeg achos dydyn nhw ddim yn deall!

Diolch am siarad efo ni.

Croeso!

Cofiwch:

Mae gen i ... = Mae ... gyda fi ... – I’ve got...

Mae gen i salon. = Mae salon gyda fi. – I’ve got a salon.

Mae gen i gi. = Mae ci gyda fi. – I’ve got a dog.

 

Oes gennych chi ...? = Oes ... gyda chi? – Have you got ...?

Oes gennych chi stori ddiddorol? = Oes stori ddiddorol gyda chi? – Have you got an interesting story?

Help
Geirfa
cŵn dogs
caru to love
fy nwylo my hands
yn union exactly
blew hair (of an animal)
ewinedd nails
glanhau to clean
eu clustiau nhw their ears
unwaith once
cyn before
ar ôl after
pwysig important
defnyddio to use
efo with the
Cymry Welsh people
deall to understand

O ba iaith mae’r geiriau yma’n dod?

salon

siampŵ