Helo ’na!

Mop … pêl … a … gôl

Beth am chwarae gêm gyda mop ... pêl ... a ... gôl?

Mae’n gyffrous iawn. Mae’n hwyl!

Pa gêm?
  • Gêm i 2 dîm
  • Mae 7 yn y tîm – bechgyn a merched.
  • Mae’r gêm fel rygbi a dodgeball a tag a pêl-fasged.
  • Rhaid cael cwaffl – pêl fach.
  • Rhaid cael gôl (3 cylch).
  • Rhaid cael snitch – pêl fach aur.
  • Rhaid cael peli mawr – i daflu at y tîm arall.
  • Rhaid cael mop (mae brwsh yn bosib hefyd).
  • Pa ddillad? Mae rhai pobl yn gwisgo clogyn i chwarae’r gêm.

I chwarae:

  • Rhaid rhedeg gyda’r mop neu’r brwsh rhwng y coesau.
  • Rhaid rhedeg, taclo a sgorio goliau.
  • Rhaid trio dalsnitch (pêl fach).
  • Mae'r snitch yn sownd i ddillad y snitch runner. Mae’r snitch runner yn rhedeg yn gyflym iawn, iawn.
  • Mae’r gêm yn gorffen ar ôl dal y snitch (30 pwynt).

 

Beth ydy’r gêm?

Quidditch, wrth gwrs – y gêm yn llyfrau Harri Potter.

 

Mae pobl yn Japan, Awstralia, De Affrica, Canada, Colombia, y Ffindir - ac ym Mhrydain - yn chwarae Quidditch heddiw.

 poster1.jpg (2)

 


Help
Geirfa

Pa?

What?

fel

like, similar to

rhaid cael

must have

cylch, cylchoedd

hoop,-s,  circle,-s

taflu

to throw

hefyd also, too

clogyn

cloak

rhwng y coesau

between the legs

trio

to try

dal

to catch
(y) Ffindir  Finland