Edrych ymlaen ...

Gŵyl y Mochyn

Gŵyl y Mochyn
www.gwylymochyn.cymru
  • Hafan
  • Cwestiynau
  • Lluniau
  • Sut i gyrraedd
  • Cysylltu â ni

 

Ydych chi’n bwyta porc?

Beth am sosejis porc, cig moch, gamwn, ham, porc sur a melys, porc wedi ei rostio neu borc ar y barbeciw?

 

Wel, os ydych chi’n hoffi porc, dyma’r ŵyl i chi:

La Pourcailhade neu La Fête du Cochon - Gŵyl y Mochyn.

 

Gŵyl y Mochyn

Mae’r ŵyl yn digwydd yn yr Hen Farchnad yn Trie Sur Baïse, Hautes-Pyrénées, Ffrainc, ar yr ail ddydd Sul ym mis Awst bob blwyddyn. 

 

Mae’n lle gwych i ddod os ydych chi’n hoffi moch – neu’n hoffi bwyta moch – achos mae digon o gig blasus yma. Bydd un gystadleuaeth bwyta arbennig iawn lle bydd dynion yn bwyta pwdin gwaed dros 1 metr o hyd! Pwy fydd yn ennill? Y person i fwyta’r mwya.

 

Ond bydd cystadlaethau doniol eraill hefyd fel cystadleuaeth bwyta sosejis (porc wrth gwrs) a chystadleuaeth gwisg ffansi – gwisgo fel mochyn.

 

Byddwch chi wrth eich bodd yma a byddwch chi’n chwerthin ... chwerthin ... chwerthin pan fyddwch chi’n gwylio’r gystadleuaeth o’r enw Cri de Cochon (Cri’r mochyn). Bydd pobl yn gwisgo i fyny fel moch ac yna byddan nhw’n gwneud sŵn mochyn. Byddan nhw’n gwichian ac yn rhochian fel mochyn.

 

 

Bydd cystadleuaeth i’r moch hefyd – ras y moch bach er enghraifft.

 

Os ydych chi’n hoffi diwrnod o hwyl ... os ydych chi’n mwynhau cael amser da a chwerthin, dewch i Ŵyl y Mochyn – byddwch chi wrth eich bodd yma (ond peidiwch dod os ydych chi’n llysieuydd neu os ydych chi ar ddiet!)

 

Help
Geirfa
sur sour
ail second
pwdin gwaed black pudding (lit. blood pudding)
o hyd in length
ennill to win
mwya most
gwichian to squeal
rhochian to grunt
moch bach piglets
er enghraifft for example
llysieuydd vegetarian