Cymraeg - hwyl, gŵyl a gwaith

Gweithio ar y teledu

Gweithio ar y teledu

Rydych chi’n mynd i wrando ar ddau berson yn siarad. Dyma rai geiriau i’ch helpu chi os ydych chi eisiau help.

Help
Geirfa
cyflwynydd presenter
gwraig wife
fy ngwraig my wife
cyflwyno to present
rhaglen wyliau holiday programme

Trawsgrif

Iwan:Mae llawer o bobl yn dringo Everest bob blwyddyn ...  ac mae rhai pobl yn gadael sbwriel yno.

Person Sgript

Cyflwynydd:

 

 

Croeso i’r rhaglen Gwaith. Heddiw dw i’n siarad gyda dyn o’r teledu. Pwy ydy o? Gawn ni weld...

Beth ydy’ch enw chi?

Rhodri Owen: Rhodri Owen ydw i.
Cyflwynydd:

Ble ydych chi’n byw?

Rhodri Owen: Dw i’n byw yn Y Bont-faen yn Bro Morgannwg.   
Cyflwynydd:

Oes teulu gyda chi?

Rhodri Owen: Oes, ...  mae gwraig a mab gyda fi ...   Mae Lucy, fy ngwraig i, yn gweithio ar y teledu ... Mae hi’n darllen y newyddion ar BBC Wales Today ... ac mae hi’n gweithio ar y rhaglen X Ray.
Cyflwynydd:

Beth ydy’ch gwaith chi?

Rhodri Owen:

 

Dw i’n gweithio ar y teledu ... Dw i’n cyflwyno  Prynhawn Da ... ar S4C. Mae Prynhawn Da ar y teledu brynhawn dydd Llun ...  brynhawn dydd Mawrth ... brynhawn dydd Mercher ...  brynhawn dydd Iau ... a phrynhawn dydd Gwener am ddau o’r gloch.
Cyflwynydd:

Ydych chi’n gweithio ar raglenni eraill?

Rhodri Owen: Ydw, dw hefyd yn cyflwyno rhaglen Heno ar S4C.
Cyflwynydd:

Rydych chi’n gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg felly.

Rhodri Owen: Ydw. ...  Dw i’n siarad Cymraeg ... felly dw i’n gallu gweithio ar raglenni Cymraeg a Saesneg.
Cyflwynydd:

Sut dechreuoch chi?

Rhodri Owen:

Nes i dechrau yn byd teledu yn actio mewn opera sebon ar S4C blynyddoedd maeth yn ôl or enw Dinas.

Cyflwynydd:

Beth am y teledu – sut dechreuoch chi?

Rhodri Owen: Dechreuais i ar S4C yn un naw naw tri yn cyflwyno rhagleni plant.   
Cyflwynydd:

Beth wedyn?

Rhodri Owen:

 

Ar ôl chwe blynedd o weithio ar S4C, es i i Lundain i fyw a dechreuais i weithio ar CBBC –...  yn Saesneg. Dw i wedi cyflwyno llawer o raglenni Saesneg ... fel rhaglen wyliau ar BBC1 o’r enw "Holiday" – ... a rhaglen wyliau ar ITV - "Wish You Were Here...?,"
Cyflwynydd:

Rydych chi wedi ysgrifennu llyfr Cymraeg.

Rhodri Owen:

Ydw –...  llyfr i blant am fwyd iach. ...  Y teitl ydy "Bwyd bwyd bwyd” .... Mae bwyta’n iach yn bwysig iawn.

Cyflwynydd:

Diolch am siarad gyda fi.

Rhodri Owen:

Croeso.