Rhifyn 16 - Ffantasi

Ffilmiau ffantasi

Mae ffilmiau ffantasi’n boblogaidd iawn heddiw. Beth ydy barn pobl ifanc, tybed?

Josh Josh

Dw i wrth fy modd gyda ffilmiau ffantasi achos maen nhw’n wahanol i ffilmiau eraill. Dw i’n hoff iawn o dair ffilm The Lord of the Rings achos mae’r plot yn wych, mae’r actio’n ardderchog, mae’r effeithiau arbennig yn anhygoel ac mae’r ffilmio’n hyfryd. Ardderchog heb os nac oni bai!

Harri Harri

Dw i’n cytuno gyda Josh cant y cant ond mae ffilmiau Harry Potter yn ardderchog hefyd.  Mae’r plot yn gyffrous – y da yn erbyn y drwg. Mae’r effeithiau arbennig yn anhygoel ac mae’r gerddoriaeth yn wych.  Mae’r ffilmio’n anhygoel hefyd. Dyma fy hoff ffilmiau i.

Anissa Anissa

Dw i wrth fy modd gyda’r ffilmiau yna hefyd a hoffwn i weld Fantastic Beasts and Where to Find Them. Mae’n ffilm antur ffantasi gan J. K. Rowling ac mae Eddie Redmayne, Katherine Waterston a Colin Farrell yn y ffilm. Mae’n edrych yn dda iawn.

Lyn Lyn

Dw i’n cytuno gyda Josh a Harri. Mae’r ffilmiau ffantasi yna’n arbennig iawn ond dw i’n hoffi Avatar hefyd achos mae popeth mor hardd yn y ffilm yna. Mae’r lliwiau, yn arbennig, yn wych.  Mae’r ffilm yn wahanol iawn i ffilmiau Harry Potter a The Lord of the Rings ond mae’n ardderchog.

Ishmael Ishmael

Dw i ddim yn hoffi Avatar – mae’n ddiflas iawn. Mae’n well gen i ffilmiau ffantasi gyda hiwmor fel Ghostbusters – mae’n ddoniol iawn. Mae’r actorion yn ardderchog ac mae Melissa McCarthy yn wych.  Mae’r stori braidd yn wirion ond mae’n hwyl.

Carmen Carmen

Mae’n well gen i The Hobbit.  Mae’r cymeriadau’n ddiddorol iawn ac mae’r plot yn gyffrous.  Mae popeth yn y ffilm yn wahanol iawn i fywyd pob dydd ac mae’n braf dianc i fyd ffantasi weithiau.

Geirfa
   
poblogaidd popular
tybed I wonder
effeithiau arbennig special effects
cant y cant a hundred percent
yn erbyn against
antur adventure
y ffilm yna that film
cymeriadau characters
braidd yn wirion rather silly
bywyd life
pob dydd every day
dianc (to) escape
byd world