Ble ydych chi’n ymarfer?
Ydych chi’n hoffi chwarae tennis bwrdd?
Ydych chi’n dda am chwarae tennis bwrdd?
Mae Megan ac Angharad Phillips yn dda iawn. Maen nhw’n dda iawn, iawn. Maen nhw’n chwarae tennis bwrdd dros Gymru.
Byw: Dinbych (Denbigh)
Ysgol: Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun
Nawr: Prifysgol Durham
Chwarae dros Gymru:
Mae Megan ac Angharad yn hoffi cystadlu ond rhaid ymarfer …
Ble ydych chi’n ymarfer?
Yn y ganolfan hamdden yn Ninbych neu yng Nghaerdydd.
Pryd ydych chi’n ymarfer?
Rydyn ni’n ymarfer yn y bore a’r prynhawn.
Faint ydych chi’n ymarfer bob dydd?
Rydyn ni’n ymarfer tua dwy awr a hanner yn y bore a tua dwy awr a hanner yn y prynhawn.
Dyma Megan ac Angharad yn gwisgo gwisg tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad (Commonwealth Games) yn Glasgow yn 2014.
Ble ydych chi’n chwarae, Megan ac Angharad?
Yn yr Almaen. Rydyn ni’n mynd i’r Almaen bob mis.
Pam wyt ti’n hoffi cystadlu, Megan?
Wel, mae chwarae tennis bwrdd yn hwyl a dw i’n hoffi teithio.
Pam wyt ti’n hoffi cystadlu, Angharad?
Dw i’n hoffi teithio hefyd - i India, Yr Almaen, China, America, Ffrainc, Sweden, Norwy, Tunisia, Rwsia, Gwlad Pwyl a mwy!!
Bobl bach! Beth dydych chi ddim yn hoffi am gystadlu?
Mae’n anodd mynd allan gyda ffrindiau.
Megan ac Angharad – pob lwc i chi.
Diolch yn fawr.
Megan yn America
Es i i America yn 2013 i chwarae yn yr US Open. Roedd o’n wych.
Es i i Las Vegas. Mae’r ‘strip’ yn Las Vegas yn ddiddorol iawn.
Es i weld y Grand Canyon – roedd o’n anhygoel!
Angharad yn India
Es i i India i chwarae tennis bwrdd yn 2010. Roedd o’n ddiddorol iawn ond roedd o’n sioc. Gwelais i’r ‘shantis’ ble mae rhai pobl yn byw.
Hefyd, gwelais i’r Taj Mahal. Roedd o’n anhygoel!
Help
Geirfa | |
batio dros Gymru |
batting for Wales |
prifysgol |
university |
cystadlu |
to compete |
ymarfer |
to train |
awr |
hour |
teithio | to travel |
anodd |
difficult |
es i |
I went |
roedd o’n = roedd e’n |
it was |
anhygoel |
amazing, awesome |
gwelais i | I saw |
rhai pobl | some people |