Ydych chi’n hoffi chwarae hoci?
Wel, beth am chwarae Octopush – hoci o dan y dŵr?
Helo, David, Tomos, Lewis a Rhys ydyn ni. Rydyn ni’n byw yn Sir Benfro ac rydyn ni’n mynd i Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro.
Rydyn ni’n hoffi nofio.
Rydyn ni’n hoffi chwarae hoci.
Rydyn ni’n hoffi chwarae hoci – o dan y dŵr.
Rydyn ni’n chwarae dros dîm Hwlffordd.
Rydyn ni’n ymarfer bob nos Wener
Rydyn ni’n chwarae gêm bob mis.
Mae hoci o dan y dŵr yn hwyl!
I CHWARAE …
Rhaid cael:
Rhaid gwisgo:
Sut i chwarae:
Mae dau dîm o 6 yn chwarae. Mae un tîm yn chwarae gyda ffon hoci ddu ac mae’r tîm arall yn chwarae gyda ffon hoci wen. Rydyn ni’n chwarae o dan y dŵr – ar lawr y pwll nofio.
Rydyn ni’n deifio i mewn i’r dŵr ac rydyn ni’n trio sgorio goliau. Rydyn ni’n taro’r cnap gyda’r ffon hoci ac rydyn ni’n pasio’r cnap i’r tîm. Weithiau, rydyn ni’n taclo’r tîm arall.
Mae’n bwysig gweithio fel tim.
Rydyn ni’n dod allan o’r dŵr i anadlu, wrth gwrs.
Mae’n hwyl. Mae’n gyffrous! Mae’n wych!
Mae tua dwy fil pum cant (2,500) o bobl yn chwarae hoci o dan y dŵr ym Mhrydain.
Mae sawl clwb yn Ne Cymru.
yn + Prydain = ym Mhrydain
yn + De Cymru = yn Ne Cymru
Geirfa | |
o dan y dŵr |
underwater |
Hwlffordd |
Haverfordwest |
bob |
every |
ffon hoci |
hockey stick |
cnap |
puck |
maneg wedi padio |
padded glove |
mwgwd |
mask |
gwisg nofio |
swimsuit |
ffon hoci wen | white hockey stick |
llawr |
floor |
taro |
to hit |
weithiau |
sometimes |
mae’n bwysig |
it’s important |
anadlu |
to breathe |
sawl | several |
goal
to dive
to score
in Britain