Helo ’na!

Chwarae o dan y dŵr

Chwarae o dan y dŵr

Ydych chi’n hoffi chwarae hoci?

Wel, beth am chwarae Octopush – hoci o dan y dŵr?

Helo, David, Tomos, Lewis a Rhys ydyn ni.  Rydyn ni’n byw yn Sir Benfro ac rydyn ni’n mynd i Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro.

underwater1.jpg

Rydyn ni’n hoffi nofio.

Rydyn ni’n hoffi chwarae hoci.

Rydyn ni’n hoffi chwarae hoci – o dan y dŵr.

Rydyn ni’n chwarae dros dîm Hwlffordd.

Rydyn ni’n ymarfer bob nos Wener

Rydyn ni’n chwarae gêm bob mis.

Mae hoci o dan y dŵr yn hwyl!

 

I CHWARAE …

Rhaid cael:

 

Rhaid gwisgo:

 

underwater500-1.jpg underwater500-2.jpg

 

Sut i chwarae:

Mae dau dîm o 6 yn chwarae. Mae un tîm yn chwarae gyda ffon hoci ddu ac mae’r tîm arall yn chwarae gyda ffon hoci wen. Rydyn ni’n chwarae o dan y dŵr – ar lawr y pwll nofio.

 

Rydyn ni’n deifio i mewn i’r dŵr ac rydyn ni’n trio sgorio goliau. Rydyn ni’n taro’r cnap gyda’r ffon hoci ac rydyn ni’n pasio’r cnap i’r tîm. Weithiau, rydyn ni’n taclo’r tîm arall.

 

Mae’n bwysig gweithio fel tim.

Rydyn ni’n dod allan o’r dŵr i anadlu, wrth gwrs.

Mae’n hwyl. Mae’n gyffrous! Mae’n wych!

 

Gwybodaeth

Mae tua dwy fil pum cant (2,500) o bobl yn chwarae hoci o dan y dŵr ym Mhrydain.

Mae sawl clwb yn Ne Cymru.

Iaith

yn + Prydain = ym Mhrydain

yn + De Cymru = yn Ne Cymru

Help
Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

goal

to dive

to score

in Britain