Pa fath o gerddoriaeth ydych chi’n hoffi?
Ydych chi’n hoffi rap?
Ydych chi’n hoffi pop?
Ydych chi’n hoffi jazz?
Ydych chi’n hoffi indi?
A beth am gerddoriaeth glasurol? Ydych chi’n hoffi cerddoriaeth glasurol?
Mae rhai pobl yn Brasil yn hoffi cerddoriaeth glasurol yn fawr iawn. Maen nhw’n hoffi gwrando ar gerddoriaeth glasurol ac maen nhw’n hoffi chwarae cerddoriaeth glasurol hefyd - ond mae problem. Mae’r bobl yma’n dlawd iawn - ac mae offerynnau cerdd yn ddrud iawn.
Dim problem - mae’r bobl yn gwneud offerynnau cerdd. Maen nhw’n gwneud yr offerynnau cerdd o sbwriel. Maen nhw’n gwneud ffidil … fiola … cello … drwm … bas dwbl o sbwriel. Yna, maen nhw’n chwarae’r offerynnau cerdd mewn cerddorfa arbennig.
Cerddorfa arbennig – y Landfillharmonic
Edrychwch ar enw’r gerddorfa – y landfillharmonic. Enw arall ydy’r recycled orchestra.
Edrychwch ar y lluniau yma. Beth ydy’r offerynnau cerdd?
Ydych chi eisiau clywed y gerddorfa? Ewch i: https://www.youtube.com/watch?v=fXynrsrTKbI
HelpCymraeg | Saesneg |
cerddorfa | orchestra |
arbennig | special |
cerddoriaeth | music |
Pa fath? | What kind? |
clasurol | classical |
rhai | some |
tlawd | poor |
offerynnau cerdd | musical instruments |
drud | expensive |
sbwriel | rubbish |
ffidil
fiola
drwm
bas dwbl