Gwych? Diflas?

Gwahanol!

Edrychwch ar y llun yma.

mona lisa_sq.jpg

Beth ydych chi’n feddwl o’r llun?

Cwis sydyn

  1. Pwy ydy’r ferch yn y llun?
  2. Pwy oedd yr artist?
  3. Ble roedd e’n byw?
    • a. Yng Nghymru.
    • b. Yn yr Eidal
    • c. Yn Ffrainc
    • ch.Yn Awstralia
  4. Faint mae’r llun yn costio?
    • a. £100
    • b. £1000
    • c. £1,000,000
    • ch. Dros £1,000,000
  5. Ble mae’r llun heddiw?
    • a. Yng Nghymru.
    • b. Yn yr Eidal
    • c. Yn Ffrainc
    • ch. Yn Awstralia

Nawr, edrychwch ar y llun yma.

mona_lisa-combined (1).jpg

Gan Larry Moss a Kelly Cheatle - os ydych chi eisiau gweld mwy o luniau fel hyn, ewch i airgami.com

 

Beth ydych chi’n feddwl o’r llun yma?
Parodi ydy’r llun yma. Mae’r artist wedi copïo’r llun ond yn ddoniol.

Beth mae’r artist wedi ddefnyddio yn y llun?

Ydych chi eisiau help? Wel, edrychwch ar y lluniau yma.

 

Mae rhai artistiaid yn defnyddio paent. Mae rhai’n defnyddio olew; mae rhai’n defnyddio pastel; mae rhai artistiaid yn ailgylchu pethau ond mae Larry Moss a Kelly Cheatle yn defnyddio balwnau!  Enw’r grefft ydy Airgami.

larryandkellyairigami-webSQ.jpg

Larry Moss a Kelly Cheatle

 

Help
Geirfa  

llun, lluniau

picture, pictures

parodi

parody

wedi copïo

has copied

yn ddoniol

funny, funnily

bywyd llonydd

still life

clustdlws perl pearl earring

wedi defnyddio

has used

defnyddio

to use

olew

oil

ailgylchu

 

to recycle

 pethau things 

Beth ydy’r geiriau Cymaeg?

To cost

To copy