Sut ydych chi heddiw?
Helo, dw i’n dda iawn diolch yn fawr.
Beth ydy’ch enw chi?
Iolo Williams ydw i.
Ble ydych chi’n byw?
Dw i’n byw mewn pentre bach o’r enw Llandysul, yn ymyl y Drenewydd.
O ble ydych chi’n dod?
Dw i’n dod yn wreiddiol o bentre Llanwddyn, eto yng ngogledd Sir Powys.
Beth ydy’ch gwaith chi?
Dw i’n gweithio fel naturiaethwr, a hefyd cyflwynydd teledu a dw i’n sgwennu llyfrau.
Pa fath o raglenni ydych chi’n cyflwyno?
Dw i’n cyflwyno rhaglenni natur a rhaglenni awyr agored.
Pa fath o lyfrau ydych chi’n ysgrifennu?
Dw i’n ysgrifennu llyfrau natur ac yn enwedig llyfrau adar.
Pam ydych chi’n hoffi byd natur?
Dw i’n hoffi byd natur achos fod o’n gadael i mi fod yn yr awyr agored trwy’r amser.
Beth ydy’ch hoff anifail chi?
Fy hoff anifail ydy’r teigr, sef cath fawr oren efo streipiau du ... sy’n byw mewn gwledydd fel India a China ... ond sy’n anifail prin iawn erbyn heddiw.
Beth ydy’ch hoff aderyn chi?
Fy hoff aderyn ydy’r barcut coch ac mae’r barcut coch yn aderyn mawr efo cynffon fforchog - efo math o “V” yn y gynffon. Achos mai hwn ydy aderyn cenedlaethol Cymru, fy hoff aderyn ydy’r barcut coch.