Disgrifio

Tegi

Rydych ch’n mynd i wrando ar eitem o newyddion o’r radio.

Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.

Help
Geirfa
bwystfil monster
yno there

er enghraifft

for example

prysur busy
gwlad country

o gwmpas

around
enwog famous

llyn

lake

chwaraeon dŵr

water sports

rheswm reason
tywyll dark
siâp shape
codi

to rise

hir long
Pwy a ŵyr?

Who knows?


Tegi Lake.jpg 

Tegi - Trawsgrif

Croeso i’r newyddion.

Mae’r Bala’n lle diddorol iawn.

Beth sy yno? Wel, mae siopau diddorol ar y Stryd Fawr, er enghraifft siop Gymraeg, siopau bwyd, siopau bara, siop esgidiau ac ati. Mae llawer o gaffis a thai bwyta da yno hefyd lle mae’n bosib bwyta bwyd blasus – ac, wrth gwrs, yn y Bala mae sinema sy’n dangos ffilmiau newydd a chanolfan hamdden ardderchog hefyd.

Mae’r Bala’n dref fach brysur ac o gwmpas y dref mae gwlad fendigedig gyda bryniau hardd.

Mae’r Bala’n enwog achos mae llyn hyfryd yma ac mae’n bosib canŵio a mwynhau chwaraeon dŵr ar y llyn. Ond mae’r llyn yn enwog am reswm arall hefyd. Mae rhai pobl yn dweud bod bwystfil, neu monster, yn byw yn y llyn – fel y Loch Ness Monster. Tegi ydy enw’r bwystfil achos Llyn Tegid ydy enw’r llyn

Ond pa fath o fwystfil ydy o? Gwrandewch ar Siôn Davies,

“Roeddwn i’n cerdded adre o’r ganolfan hamdden nos Wener. Roedd hi’n noson braf ond roedd hi’n dywyll. Clywais i sŵn rhyfedd yn dod o’r llyn. Es i i lawr at y llyn a gwelais i siâp mawr, hir, du yn codi o’r dŵr. Edrychais i ar y siâp hir, mawr, du ac yna meddyliais i, “Tegi!”. Ond yna, aeth y bwystfil yn ôl o dan y dŵr.

Oes bwystfil yn Llyn Tegid? Pwy a ŵyr? Beth ydych chi’n feddwl?