Disgrifio

Yr ardal

Yr ardal
Aberaeron

Cerian ydw i a dw i’n byw yn Aberaeron yng Ngorllewin Cymru. Tref ydy Aberaeron ac mae’n hyfryd. Mae adeiladau lliwgar iawn yma. Mae siopau, pwll nofio, canolfan hamdden a harbwr yma. Mae’r harbwr yn hardd iawn. Dw i wrth fy modd yn byw yma achos dw i’n mwynhau byw wrth y môr.

Newtown

Owain ydw i a dw i’n byw yn y Drenewydd (Newtown), yn Nwyrain Cymru. Mae pwll nofio, sinema, canolfan hamdden a theatr yma. Dw i’n mwynhau byw yma achos mae gen i lawer o ffrindiau yma.

Newport (pem)

Raaina ydw i a dw i’n byw yn Nhrefdraeth (Newport), Sir Benfro. Pentref ydy Trefdraeth. Mae rhai siopau yma ond does dim sinema na theatr yma. Dw i wrth fy modd yn byw yma achos dw i’n mwynhau mynd i’r traeth gyda fy ffrindiau.

Wrecsam

Yasseen ydw i a dw i’n byw yn Wrecsam, yng Ngogledd Cymru. Tref ydy Wrecsam ac mae’n wych achos mae llawer o bethau yma – siopau modern, sinema wych sy’n dangos ffilmiau newydd, theatr, cae pêl-droed (Y Cae Ras) lle mae tîm pêl-droed Wrecsam yn chwarae, pwll nofio mawr, canolfannau hamdden ardderchog – a mwy! Dw i’n hoffi byw yma achos mae’n gyffrous – mae digon o bethau i wneud.

Llanelli

Ben ydw i a dw i’n byw yn Llanelli, tref yn Ne Cymru. Mae digon o bethau i wneud yn Llanelli hefyd. Mae sinema a theatr newydd sbon yma ac maen nhw’n ardderchog. Mae canolfannau hamdden yma – a phwll nofio mawr. Hefyd, mae’n bosib mynd i lan y môr. Mae Llanelli’n wych!

Help
Geirfa
tref town
adeiladau buildings
lliwgar colourful
pentref village
na nor
pethau things
sy’n dangos that shows
digon o plenty of
newydd sbon brand new

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

harbour

cinema

theatre