Disgrifio

Lluniau lliwgar

Lluniau lliwgar

Aderyn lliwgar llachar

 yn eistedd heb siw na miw

   yn aros am fwyd.

 

Carped lliwgar o flodau

  yn enfys o liwiau

   bendigedig.

 

Dwy ferch swil

 mewn dillad fflamgoch, hardd

  ar gefndir gwyn ysblennydd.

 

Golau gwyrdd dramatig

  yn saethu’n sydyn ar draws

    awyr ddu y nos.

 

Môr gwyrdd llonydd,

  cychod cysglyd,

   harbwr hyfryd.

 

Mae’r byd yn llawn

 Pobl a phethau

  LLIWGAR!

 

Non ap Emlyn

lluniau_lliwgar_6_images.jpg

Help
Geirfa
lliwgar colourful
llachar bright

heb siw na miw

without a sound

aros

to wait

enfys

rainbow

swil shy
fflamgoch

flaming red

cefndir

background

ysblennydd

splendid

saethu

to shoot

ar draws

across
awyr sky
llonydd still
cychod boats
cysglyd sleepy
 pethau  things

Edrychwch …!

lliw (colour)    >    lliwgar (colourful)

cysgu (to sleep)    >    cysglyd (sleepy)

fflam (flame) + coch (red)    >    fflamgoch (flaming red)

lluniau_lliwgar_740x300.jpg