Os ydych chi mewn ysgol yn Ne Cymru, darllenwch Darn 1.
Os ydych chi mewn ysgol yng Ngogledd Cymru, darllenwch Darn 2.
Helo o Japan! Dyma fi:
Enw: |
Aiko Chihira |
Byw: |
Japan |
Oed: |
32 oed |
Gwaith: |
Derbynnydd mewn siop |
Aiko Chihira ydw i a dw i’n byw yn Japan. Dw i’n 32 oed a dw i’n siarad Japanaeg a Tsieinëeg ond dw i eisiau dysgu siarad ieithoedd eraill. Dw i’n gallu defnyddio iaith arwyddion hefyd.
Mae gwallt hir coch gyda fi. Mae llygaid bach brown gyda fi. Dw i’n gyfeillgar iawn.
Dw i’n gweithio mewn siop – dw i’n dweud, “Helo” wrth y cwsmeriaid wrth ddrws y siop. Dw i’n hoffi’r gwaith achos dw i’n hoffi siarad gyda’r cwsmeriaid. Dw i’n helpu’r cwsmeriaid hefyd – dw i’n dweud ble mae pethau yn y siop. Dw i’n gwisgo kimono yn y gwaith.
Mae’r Gemau Olympaidd yn dod i Tokyo yn 2020 a dw i eisiau helpu’r ymwelwyr. Dw i eisiau dweud wrth ymwelwyr ble mae pethau yn y Gemau Olympaidd.
Wel, dyna fi – ond … beth ydw i?
HelpGeirfa | |
derbynnydd |
receptionist |
ieithoedd |
languages |
gallu |
to be able to, can |
defnyddio |
to use |
iaith |
language |
arwyddion |
signs |
hir |
long |
cyfeillgar |
friendly |
pethau |
things |
ymwelwyr |
visitors |
Helo o Japan! Dyma fi:
Enw: |
Aiko Chihira |
Byw: |
Japan |
Oed: |
32 oed |
Gwaith: |
Derbynnydd mewn siop |
Aiko Chihira ydw i a dw i’n byw yn Japan. Dw i’n 32 oed a dw i’n siarad Japanaeg a Tsieinëeg ond dw i eisiau dysgu siarad ieithoedd eraill. Dw i’n gallu defnyddio iaith arwyddion hefyd.
Mae gen i wallt hir coch. Mae gen i lygaid bach brown. Dw i’n gyfeillgar iawn.
Dw i’n gweithio mewn siop – dw i’n dweud, “Helo” wrth y cwsmeriaid wrth ddrws y siop. Dw i’n hoffi’r gwaith achos dw i’n hoffi siarad gyda’r cwsmeriaid. Dw i’n helpu’r cwsmeriaid hefyd – dw i’n dweud ble mae pethau yn y siop. Dw i’n gwisgo kimono yn y gwaith.
Mae’r Gemau Olympaidd yn dod i Tokyo yn 2020 a dw i eisiau helpu’r ymwelwyr. Dw i eisiau dweud wrth ymwelwyr ble mae pethau yn y Gemau Olympaidd.
Wel, dyna fi – ond … beth ydw i?
HelpGeirfa | |
derbynnydd |
receptionist |
ieithoedd |
languages |
gallu |
to be able to, can |
defnyddio |
to use |
iaith |
language |
arwyddion |
signs |
iaith arwyddion |
sign language |
hir |
long |
cyfeillgar |
friendly |
pethau |
things |
ymwelwyr |
visitors |