Rydych ch’n mynd i wrando ar eitem o newyddion o’r radio.
Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
bwystfil | monster |
yno | there |
er enghraifft |
for example |
prysur | busy |
gwlad | country |
o gwmpas |
around |
enwog | famous |
llyn |
lake |
chwaraeon dŵr |
water sports |
rheswm | reason |
tywyll | dark |
siâp | shape |
codi |
to rise |
hir | long |
Pwy a ŵyr? |
Who knows? |
Croeso i’r newyddion.
Mae’r Bala’n lle diddorol iawn.
Beth sy yno? Wel, mae siopau diddorol ar y Stryd Fawr, er enghraifft siop Gymraeg, siopau bwyd, siopau bara, siop esgidiau ac ati. Mae llawer o gaffis a thai bwyta da yno hefyd lle mae’n bosib bwyta bwyd blasus – ac, wrth gwrs, yn y Bala mae sinema sy’n dangos ffilmiau newydd a chanolfan hamdden ardderchog hefyd.
Mae’r Bala’n dref fach brysur ac o gwmpas y dref mae gwlad fendigedig gyda bryniau hardd.
Mae’r Bala’n enwog achos mae llyn hyfryd yma ac mae’n bosib canŵio a mwynhau chwaraeon dŵr ar y llyn. Ond mae’r llyn yn enwog am reswm arall hefyd. Mae rhai pobl yn dweud bod bwystfil, neu monster, yn byw yn y llyn – fel y Loch Ness Monster. Tegi ydy enw’r bwystfil achos Llyn Tegid ydy enw’r llyn.
Ond pa fath o fwystfil ydy o? Gwrandewch ar Siôn Davies,
“Roeddwn i’n cerdded adre o’r ganolfan hamdden nos Wener. Roedd hi’n noson braf ond roedd hi’n dywyll. Clywais i sŵn rhyfedd yn dod o’r llyn. Es i i lawr at y llyn a gwelais i siâp mawr, hir, du yn codi o’r dŵr. Edrychais i ar y siâp hir, mawr, du ac yna meddyliais i, “Tegi!”. Ond yna, aeth y bwystfil yn ôl o dan y dŵr.
Oes bwystfil yn Llyn Tegid? Pwy a ŵyr? Beth ydych chi’n feddwl?