21 Mai, 1961
Nos Lun
Mae hi’n dawel iawn yma. Mae popeth yn barod ac yfory bydd y cart yn dod i symud ein pethau ni i gartref newydd – ond dydyn ni ddim eisiau mynd. Na – dydyn ni ddim eisiau mynd o gwbl! Dw i ddim eisiau mynd. Dydy’r plant ddim eisiau mynd a dydy pobl y pentref ddim eisiau mynd. Ond rhaid i ni fynd achos mae pobl Lerpwl eisiau dŵr!
Mae’r ysgol wedi cau. Mae swyddfa’r post wedi cau. Mae’r capel wedi cau. Mae’r ffermydd wedi cau. Mae bywyd y pentref wedi gorffen. Mae’n boenus! Mae’n rhy boenus!
Rydyn ni wedi protestio. Rydyn ni wedi bod i Lerpwl yn protestio ond dydy pobl Lerpwl ddim eisiau gwybod – achos maen nhw eisiau dŵr.
A rŵan, dyma fi yn yr ystafell fach yn pacio popeth – achos dw i’n mynd i gartref newydd yfory, ond dw i ddim eisiau mynd! Yn yr ystafell yma mae fy mhlant i wedi bwyta ... ac wedi chwarae. Dyma ble rydyn ni wedi byw fel teulu – dyddiau hapus, gwych! Ond dim mwy!
Mae’r peiriannau mawr yn gwneud sŵn ofnadwy yn mynd i fyny ac i lawr y ffordd. Dw i’n teimlo’n ofnus ac yn nerfus – ac yn drist ofnadwy achos yfory bydd y cartref yma’n gerrig ar y llawr.
Ac yna, cyn bo hir, bydd y dŵr yn dod a bydd ein pentref bach ni – ein pentref annwyl ni – o dan y dŵr – achos mae pobl Lerpwl eisiau dŵr ...
Nos da. Na, ddim “Nos da” ond “Hwyl fawr!”
Geirfa | |||
cart | cart | wedi bod | have been |
symud | to move | popeth | everything |
peth, pethau | thing, things | peiriant, peiriannau | machine, machines |
wedi cau | (has) closed | carreg, cerrig | stone, stones |
fferm, ffermydd | farm, farms | llawr | ground |
wedi gorffen | has finished | cyn bo hir | before long, soon |
poenus | painful | annwyl | dear |
Boddi Tryweryn: y dŵr yn codi dros yr hen B4391, Awst 1965. gan E Gammie; fe'i defnyddir o dan CC BY
Cofiwch Tryweryn; fe'i defnyddir o dan CC BY
Llyn Celyn gan Tony Edwards; fe'i defnyddir o dan CC BY
Llyn Celyn Reservoir gan Roger Brooks; fe'i defnyddir o dan CC BY