Sut ydych chi’n teimlo?

Ymlacio ar draws y byd (2)

Mae llawer o bobl yn gweithio’n galed ac maen nhw’n blino. Weithiau, mae pobl o dan straen. Weithiau, maen nhw’n teimlo’n ddiflas.

 

Maen nhw eisiau teimlo’n well, felly beth maen nhw’n wneud? Sut maen nhw’n ymlacio?

Edrychwch ar y sioe sleidiau yma.

Beth mae’r bobl yn y sleidiau’n wneud?

Maen nhw’n chwerthin. Maen nhw’n gwneud ioga chwerthin.


Beth sy’n digwydd?

Mae’r bobl yn mynd i’r parc, neu i’r traeth, neu i neuadd, neu i ganolfan hamdden – unrhyw le – ac maen nhw’n chwerthin ... chwerthin ... chwerthin.


Ydy hyn yn dda?

Ydy, mae chwerthin yn dda iawn i chi. Mae’n helpu gyda phwysau gwaed ac mae’n gwneud i chi deimlo’n dda.


Ioga chwerthin
Help
Geirfa
ymlacio to relax dechreuodd started
caled hard cyn bo hir before long, soon
chwerthin to laugh ar draws all over, across
traeth beach gwlad, gwledydd country, countries
neuadd hall clwb, clybiau club, clubs
unrhyw le anywhere y byd the world
pwysau gwaed blood pressure