Rydych chi’n mynd i wrando ar ddau berson yn siarad. Dyma rai geiriau i’ch helpu chi os ydych chi eisiau help.
Media Player Error
Update your browser or Flash plugin
Help
Geirfa |
cyflwynydd |
presenter |
gwraig |
wife |
fy ngwraig |
my wife |
cyflwyno |
to present |
rhaglen wyliau |
holiday programme |
Trawsgrif
Iwan:Mae llawer o bobl yn dringo Everest bob blwyddyn ... ac mae rhai pobl yn gadael sbwriel yno.
Person |
Sgript |
Cyflwynydd:
|
Croeso i’r rhaglen Gwaith. Heddiw dw i’n siarad gyda dyn o’r teledu. Pwy ydy o? Gawn ni weld...
Beth ydy’ch enw chi?
|
Rhodri Owen: |
Rhodri Owen ydw i. |
Cyflwynydd: |
Ble ydych chi’n byw?
|
Rhodri Owen: |
Dw i’n byw yn Y Bont-faen yn Bro Morgannwg. |
Cyflwynydd: |
Oes teulu gyda chi?
|
Rhodri Owen: |
Oes, ... mae gwraig a mab gyda fi ... Mae Lucy, fy ngwraig i, yn gweithio ar y teledu ... Mae hi’n darllen y newyddion ar BBC Wales Today ... ac mae hi’n gweithio ar y rhaglen X Ray. |
Cyflwynydd: |
Beth ydy’ch gwaith chi?
|
Rhodri Owen:
|
Dw i’n gweithio ar y teledu ... Dw i’n cyflwyno Prynhawn Da ... ar S4C. Mae Prynhawn Da ar y teledu brynhawn dydd Llun ... brynhawn dydd Mawrth ... brynhawn dydd Mercher ... brynhawn dydd Iau ... a phrynhawn dydd Gwener am ddau o’r gloch. |
Cyflwynydd: |
Ydych chi’n gweithio ar raglenni eraill?
|
Rhodri Owen: |
Ydw, dw hefyd yn cyflwyno rhaglen Heno ar S4C. |
Cyflwynydd: |
Rydych chi’n gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg felly.
|
Rhodri Owen: |
Ydw. ... Dw i’n siarad Cymraeg ... felly dw i’n gallu gweithio ar raglenni Cymraeg a Saesneg. |
Cyflwynydd: |
Sut dechreuoch chi?
|
Rhodri Owen: |
Nes i dechrau yn byd teledu yn actio mewn opera sebon ar S4C blynyddoedd maeth yn ôl or enw Dinas.
|
Cyflwynydd: |
Beth am y teledu – sut dechreuoch chi?
|
Rhodri Owen: |
Dechreuais i ar S4C yn un naw naw tri yn cyflwyno rhagleni plant. |
Cyflwynydd: |
Beth wedyn?
|
Rhodri Owen:
|
Ar ôl chwe blynedd o weithio ar S4C, es i i Lundain i fyw a dechreuais i weithio ar CBBC –... yn Saesneg. Dw i wedi cyflwyno llawer o raglenni Saesneg ... fel rhaglen wyliau ar BBC1 o’r enw "Holiday" – ... a rhaglen wyliau ar ITV - "Wish You Were Here...?," |
Cyflwynydd: |
Rydych chi wedi ysgrifennu llyfr Cymraeg.
|
Rhodri Owen: |
Ydw –... llyfr i blant am fwyd iach. ... Y teitl ydy "Bwyd bwyd bwyd” .... Mae bwyta’n iach yn bwysig iawn.
|
Cyflwynydd: |
Diolch am siarad gyda fi.
|
Rhodri Owen: |
Croeso.
|