Rydych chi’n mynd i wylio ffilm, ond yn gynta, dyma ychydig o help os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
gawn ni weld | let’s see |
cyw iâr | chicken |
Gawn ni archebu? | May we order? |
Beth amdanat ti? | What about you? |
mefus | strawberries |
golchi’r car | to wash the car |
Person | Sgript |
CCC: | Prynhawn da. |
CCC: | Beth wyt ti eisiau, Aled? |
Aled:
|
Dw i ddim yn siŵr ... Gawn ni weld ... Sosejis ... Pizzas ... Pei ... Pysgod ... Cawl ... Salad ... Mmm? |
CCC: |
Dw i eisiau’r sosejis dw i’n meddwl – gyda ... pys a ... tatws. |
Aled: | A dw i eisiau’r salad cyw iâr, dw i’n meddwl. |
CCC: | Ble mae hi? |
Aled: | Dw i ddim yn gwybod. |
CCC: | Esgusodwch fi ... |
CCC: | Helo ... gawn ni archebu os gwelwch yn dda? |
Gweinyddes: | Alright! Alright! |
Gweinyddes: | Ie? |
CCC:
|
Ga i sosejis ... pys a ... ... tatws ... os gwelwch yn dda ... ... a moron.: |
Gweinyddes: | Moron?!?!?!? Hy! |
Aled: | Ga i ... salad cyw iâr ... os gwelwch yn dda? |
Aled: | Iawn? |
CCC: | Diolch. |
*** | |
CCC: | Beth ydy hwn? . |
Gweinyddes: | Sausages, peas ... tattoos...? |
CCC: | Beth?!?!? |
Gweinyddes: | Sausages, peas ... tattoos...? |
CCC: | Beth?!?!?! ... a ... beth am y moron? |
Aled: | Beth ydy hwn? |
Gweinyddes: | Salad ... hufen iâ. |
Aled: |
Salad a ... hufen iâ? Na, na - Salad a ... cyw iâr – dim hufen iâ. |
CCC: | Bobl bach?!?!? |
CCC: | O, wel! |
*** | |
Gweinyddes: | Pudding? |
CCC: | Wyt ti eisiau pwdin, Aled? |
Aled: | O, ydw, os gwelwch yn dda. Beth amdanat ti? |
CCC: | Dw i eisiau pwdin hefyd. |
Aled:
|
Dw i eisiau ... cacen siocled a ... mefus. |
Gweinyddes: | Mavis? Na – Manon. |
Aled: | Cacen siocled a ... mefus. |
Gweinyddes: | Na – Manon. |
Aled: | O, iawn ... reit ... wel ... beth amdanat ti, Carwyn? |
*** | |
CCC: | Sponge – os gwelwch yn dda. |
Aled: | Beth ydy hwn? |
Gweinyddes: | Chocolate. |
Aled: | Na, na, dw i eisiau cacen siocled a mefus. |
Gweinyddes: | Mavis?!? Na – Manon. |
CCC: | A beth ydy hwn? |
Gweinyddes: | Sponge. |
CCC: | Dw i ddim eisiau golchi’r car. Dw i eisiau bwyta sponge. |
Aled: | Mawredd mawr! |
CCC: | Dim ots. |
Gweinyddes: | Coffee? |
CCC: | Coffi?!?!?!? Dim Diolch! Y bil os gwelwch yn dda. |
Gweinyddes: | O, Bill! Hello Bill – Manon. |
CCC: | Na, na – DW ... I ... EISIAU’R ... BIL ... |
Aled: | ... os gwelwch yn dda. |
Gweinyddes: | The bill, Bil. |
CCC: | FAINT?!??!? |