Cymraeg - hwyl, gŵyl a gwaith

Dyddiadur Catrin

30 Mai, 1980

Dw i’n teimlo’n ddiflas iawn, iawn. Dw i mor siomedig!

Dw i’n hoffi gwylio rhaglenni Cymraeg ar y teledu ond does dim sianel Gymraeg yng Nghymru. Mae rhai rhaglenni ar BBC 1 ac mae rhai rhaglenni ar ITV. Fel arfer, mae’r rhaglenni Cymraeg dw i’n hoffi  ar y teledu yn hwyr yn y nos a dw i yn y gwely.

Mae llawer o bobl eisiau sianel Gymraeg. Mae rhai pobl yn protestio.

Roedd y llywodraeth yn Llundain yn mynd i roi sianel Gymraeg i ni ond newidion nhw eu meddwl yn 1979. Nawr, mae un dyn – Gwynfor Evans – yn mynd i wneud rhywbeth anhygoel!

Mae Gwynfor Evans yn mynd i lwgu. Dydy e ddim yn mynd i fwyta os dydy llywodraeth Llundain ddim yn rhoi sianel Gymraeg i ni. Mae e’n mynd i lwgu i farwolaeth os oes angen!

Bobl bach! Dw i’n teimlo’n ddiflas.

Help
Geirfa
siomedig disappointed
hwyr late
llywodraeth government
newid to change
meddwl mind
rhywbeth something
llwgu to starve
marwolaeth death

01 Tachwedd, 1982

Dw i’n teimlo’n hapus iawn, iawn achos heno am chwech o’r gloch dechreuodd S4C – sianel deledu Gymraeg – o’r diwedd! Nawr, mae pedair sianel ar y teledu – ddim tair.  

Am chwech o’r gloch, daeth Siwperted ar y sgrin – cartŵn newydd yn Gymraeg am dedi arbennig iawn. Yna, roedd y newyddion ac roedd y newyddion yn dda iawn – sianel Gymraeg newydd!

Bydd 20 awr o raglenni Cymraeg ar y sianel bob wythnos – byddwn ni’n cael dwy opera sebon – Coleg a Pobol y Cwm – dydy Pobol y Cwm ddim yn newydd – mae hi wedi bod ar BBC ers 1974 ond rŵan mae hi ar S4C! Rydyn ni’n mynd i gael pob math o raglenni – rhaglenni newyddion, rhaglenni dogfen, dramâu, ffilmiau, rhaglenni plant, rhaglenni cwis, rhaglenni comedi a chwaraeon a rhaglenni ffermio – a mwy. Dw i’n methu aros. Dw i mor hapus!

Mae pawb yn hapus heno. Mae’r Cymry Cymraeg yn hapus i gael sianel deledu Gymraeg ac mae’r bobl ddi-Gymraeg yn hapus achos does dim rhaglenni Cymraeg ar y sianeli eraill nawr.

Nos da. Dw i’n edrych ymlaen at raglenni Cymraeg nos yfory.

Help
Geirfa
o’r diwedd at last
awr hour
dogfen documentary
Cymry Welsh people
di-Gymraeg non-Welsh speaking
methu aros can’t wait
edrych ymlaen to look forward